Cod ymddygiad wrth deithio
12Cod ymddygiad wrth deithio
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru lunio cod ymddygiad wrth deithio.
(2)
Cod yw cod ymddygiad wrth deithio sy'n nodi'r safonau ymddygiad y mae'n ofynnol i ddysgwyr y mae is-adran (3) yn gymwys iddynt eu harddel tra byddant yn teithio i'r mannau perthnasol lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant ac oddi yno (pa un a ydynt yn manteisio ar drefniadau teithio a wneir gan awdurdod lleol ai peidio).
(3)
Mae'r is-adran hon yn gymwys—
(a)
i ddysgwyr nad ydynt eto'n 19 oed;
(b)
i ddysgwr sydd wedi cyrraedd 19 oed ac wedi cychwyn ar gwrs addysg neu hyfforddiant cyn cyrraedd yr oedran hwnnw ac sy'n parhau i fynychu'r cwrs hwnnw;
(c)
i'r cyfryw ddysgwyr eraill ag a ragnodir.
(4)
O bryd i'w gilydd, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r cod ymddygiad wrth deithio.
(5)
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi'r cod.
(6)
Cyn llunio cod neu ei adolygu rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r cyfryw bersonau ag y maent o'r farn eu bod yn briodol.