Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

12Cod ymddygiad wrth deithioLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio cod ymddygiad wrth deithio.

(2)Cod yw cod ymddygiad wrth deithio sy'n nodi'r safonau ymddygiad y mae'n ofynnol i ddysgwyr y mae is-adran (3) yn gymwys iddynt eu harddel tra byddant yn teithio i'r mannau perthnasol lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant ac oddi yno (pa un a ydynt yn manteisio ar drefniadau teithio a wneir gan awdurdod lleol ai peidio).

(3)Mae'r is-adran hon yn gymwys—

(a)i ddysgwyr nad ydynt eto'n 19 oed;

(b)i ddysgwr sydd wedi cyrraedd 19 oed ac wedi cychwyn ar gwrs addysg neu hyfforddiant cyn cyrraedd yr oedran hwnnw ac sy'n parhau i fynychu'r cwrs hwnnw;

(c)i'r cyfryw ddysgwyr eraill ag a ragnodir.

(4)O bryd i'w gilydd, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r cod ymddygiad wrth deithio.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi'r cod.

(6)Cyn llunio cod neu ei adolygu rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r cyfryw bersonau ag y maent o'r farn eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 12 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 12 mewn grym ar 30.10.2009 gan O.S. 2009/2819, ergl. 2(1)(b)