Dulliau teithio cynaliadwy

11Dulliau teithio cynaliadwy

(1)

Rhaid i bob awdurdod lleol a Gweinidogion Cymru hybu'r defnydd o ddulliau teithio cynaliadwy pan fyddant yn arfer swyddogaethau o dan y Mesur hwn.

(2)

Dulliau teithio yw “dulliau teithio cynaliadwy” y mae'r awdurdod neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) o'r farn eu bod yn ddulliau a all wella'r naill beth a ganlyn neu'r llall neu'r naill beth a ganlyn a'r llall sef—

(a)

llesiant corfforol y rhai sy'n eu defnyddio;

(b)

llesiant amgylchedd—

(i)

ardal gyfan yr awdurdod lleol neu ran ohoni, yn achos awdurdod, neu

(ii)

Cymru gyfan neu ran ohoni, yn achos Gweinidogion Cymru.