Prif dermau

1Y prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur hwn

(1)

Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.

(2)

Trefniadau teithio, ni waeth beth fo'r disgrifiad ohonynt, yw “trefniadau teithio” ac maent yn cynnwys—

(a)

darparu cludiant;

(b)

darparu un person neu fwy i hebrwng plentyn pan fydd yn teithio;

(c)

talu'r cyfan neu unrhyw ran o dreuliau teithio rhesymol person;

(d)

talu lwfansau mewn cysylltiad â defnyddio dulliau teithio penodol.

(3)

Ystyr “dysgwyr” yw personau sy'n cael addysg neu hyfforddiant.

(4)

Mae “mannau perthnasol” fel a ganlyn—

(a)

ysgolion a gynhelir;

(b)

sefydliadau yn y sector addysg bellach;

(c)

ysgolion annibynnol a enwir mewn F1datganiadau a gedwir o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56) F1cynlluniau datblygu unigol a gynhelir o dan adran 14 neu 19 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ;

(d)

ysgolion arbennig nas cynhelir;

(e)

unedau cyfeirio disgyblion;

(f)

mannau ac eithrio unedau cyfeirio disgyblion lle y trefnir addysg o dan adran F219(1) F219A(1) o Ddeddf Addysg 1996;

(g)

mannau lle y darperir addysg neu hyfforddiant a gyllidir gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(1) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21);

(h)

F3sefydliadau lle y sicrhawyd addysg a hyfforddiant a llety byrddio gan Weinidogion Cymru o dan adran 41 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000;

F3sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol o fewn yr ystyr a roddir gan adran 56 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a enwir mewn cynlluniau datblygu unigol a gynhelir o dan adran 14 neu 19 o’r Ddeddf honno;

(i)

mannau lle y darperir addysg feithrin—

(i)

gan awdurdod lleol, neu

(ii)

gan unrhyw berson arall sy'n cael cymorth ariannol a roddir gan awdurdod lleol o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol yn unol â'r ddyletswydd a osodir gan adran 118 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31);

(j)

mannau lle yr ymgymerir â phrofiad gwaith.