xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Diwygiadau Testunol
F1Atod. A1 wedi ei fewnosod (10.7.2011) gan Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), a. 16(2), Atod.
21(1)Rhaid i Weinidogion Cymru yn unol â'r paragraff hwn adolygu gweithrediad unrhyw ddarpariaeth a wnaed ganddynt i roi pŵer i awdurdod gorfodi (gan eu cynnwys hwy eu hunain) osod cosb sifil mewn perthynas â thorri rheoliadau diogelwch.
(2)Rhaid i'r adolygiad ddigwydd cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau ar y diwrnod pryd y daw'r ddarpariaeth i rym.
(3)Rhaid i'r adolygiad ystyried yn benodol a yw'r ddarpariaeth wedi rhoi ei hamcanion ar waith yn effeithlon ac yn effeithiol.
(4)Wth gynnal adolygiad o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r personau y mae'n briodol yn eu barn hwy i ymgynghori â hwy.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi canlyniadau adolygiad o dan y paragraff hwn.
(6)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o adolygiad o dan y paragraff hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.]