Cosbau sifilLL+C
[F11(1)Caiff rheoliadau ddarparu ynghylch cosbau sifil am dorri rheoliadau diogelwch.
(2)At ddibenion yr Atodlen hon, mae person yn torri rheoliadau diogelwch os yw'r person, o dan amgylchiadau a bennir—
(a)yn methu â chydymffurfio â gofyniad a wneir gan neu o dan reoliadau diogelwch, neu
(b)yn rhwystro neu'n methu â chynorthwyo awdurdod gorfodi.
(3)Yn yr Atodlen hon—
ystyr “cosb sifil” yw—
(a)cosb ariannol benodedig (gweler paragraff 2),
(b)gofyniad yn ôl disgresiwn (gweler paragraff 4),
(c)hysbysiad stop (gweler paragraff 7), neu
(d)ymgymeriad gorfodi (gweler paragraff 11);
ystyr “rheoliadau diogelwch” yw rheoliadau a wneir o dan adran 14B neu 14C.]
Diwygiadau Testunol
F1Atod. A1 wedi ei fewnosod (10.7.2011) gan Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (nawm 6), a. 16(2), Atod.