56.Mae’r adran hon yn ymwneud ag amgylchiadau pan fo un awdurdod lleol yn gwneud trefniadau teithio ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod gwahanol (yr awdurdod cyfrifol y mae arno gyfrifoldeb corfforaethol am y plentyn) yng Nghymru. Mae’n darparu’r pŵer i’r awdurdod lleol sy’n gwneud y trefniadau teithio alw am i’r awdurdod cyfrifol y mae’r plentyn yn derbyn gofal ganddo ad-dalu costau ac yn mynnu bod yr awdurdod cyfrifol hwn yn cydymffurfio â’r galw am ad-dalu.