41.Mae adran 11 yn rhoi dyletswydd ar awdurdod lleol ac ar Weinidogion Cymru i hybu dulliau teithio cynaliadwy pan fyddant yn arfer eu swyddogaethau o dan y Mesur. Golyga hyn y dylai awdurdod lleol ystyried cynaliadwyedd pan fydd yn asesu anghenion teithio dysgwyr o dan adran 2(2). Rhaid ystyried a hybu cynaliadwyedd hefyd pan wneir trefniadau teithio gan awdurdod lleol neu gan Weinidogion Cymru. Er enghraifft, gallai hyn olygu annog dysgwyr i deithio ar fws yn hytrach nag mewn car.
42.Mae is-adran (2) yn diffinio ‘dulliau teithio cynaliadwy’ fel dulliau y mae’r awdurdod neu Weinidogion Cymru o’r farn y gallant wella llesiant corfforol y rhai sy’n eu defnyddio a llesiant/neu lesiant amgylchedd ardal gyfan yr awdurdod neu ran ohoni, neu Gymru gyfan neu ran ohoni (yn achos Gweinidogion Cymru).