xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

2008 mccc 2

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch teithio gan bersonau sy'n cael addysg gynradd, addysg uwchradd neu addysg bellach neu hyfforddiant i ysgolion neu i fannau eraill lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant, ac oddi yno; ac at ddibenion cysylltiedig.

Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 30 Medi 2008 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 10 Rhagfyr 2008, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:–

Prif dermau

1Y prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur hwn

(1)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.

(2)Trefniadau teithio, ni waeth beth fo'r disgrifiad ohonynt, yw “trefniadau teithio” ac maent yn cynnwys—

(a)darparu cludiant;

(b)darparu un person neu fwy i hebrwng plentyn pan fydd yn teithio;

(c)talu'r cyfan neu unrhyw ran o dreuliau teithio rhesymol person;

(d)talu lwfansau mewn cysylltiad â defnyddio dulliau teithio penodol.

(3)Ystyr “dysgwyr” yw personau sy'n cael addysg neu hyfforddiant.

(4)Mae “mannau perthnasol” fel a ganlyn—

(a)ysgolion a gynhelir;

(b)sefydliadau yn y sector addysg bellach;

(c)ysgolion annibynnol a enwir mewn datganiadau a gedwir o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56);

(d)ysgolion arbennig nas cynhelir;

(e)unedau cyfeirio disgyblion;

(f)mannau ac eithrio unedau cyfeirio disgyblion lle y trefnir addysg o dan adran 19(1) o Ddeddf Addysg 1996;

(g)mannau lle y darperir addysg neu hyfforddiant a gyllidir gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(1) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21);

(h)sefydliadau lle y sicrhawyd addysg a hyfforddiant a llety byrddio gan Weinidogion Cymru o dan adran 41 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000;

(i)mannau lle y darperir addysg feithrin—

(i)gan awdurdod lleol, neu

(ii)gan unrhyw berson arall sy'n cael cymorth ariannol a roddir gan awdurdod lleol o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol yn unol â'r ddyletswydd a osodir gan adran 118 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31);

(j)mannau lle yr ymgymerir â phrofiad gwaith.

Trefniadau teithio i ddysgwyr

2Dyletswydd i asesu anghenion teithio dysgwyr

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â—

(a)dysgwyr nad ydynt eto'n 19 oed;

(b)dysgwyr sydd wedi cyrraedd 19 oed ac sydd wedi cychwyn ar gwrs addysg neu hyfforddiant cyn cyrraedd yr oedran hwnnw ac sy'n parhau i fynychu'r cwrs hwnnw;

(c)y cyfryw ddysgwyr eraill ag a ragnodir.

(2)Ym mhob blwyddyn academaidd, rhaid i awdurdod lleol asesu anghenion teithio dysgwyr ei ardal ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol. Ond mae'r ddyletswydd hon yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 5.

(3)At ddibenion is-adran (2), anghenion dysgwyr sy'n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod am gael trefniadau teithio addas bob dydd i'r mannau perthnasol lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant ac oddi yno yw “anghenion teithio dysgwyr” ardal awdurdod lleol.

(4)Wrth wneud asesiad o dan is-adran (2) rhaid i awdurdod lleol roi sylw yn benodol i—

(a)anghenion dysgwyr sy'n bersonau anabl,

(b)anghenion dysgwyr a chanddynt anawsterau dysgu,

(c)anghenion dysgwyr sy'n blant ac sy'n derbyn gofal, neu a fu gynt yn derbyn gofal, gan awdurdod lleol,

(d)oed dysgwyr, ac

(e)natur y ffyrdd y gellid yn rhesymol ddisgwyl i ddysgwyr eu dilyn i'r mannau perthnasol lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant.

3Dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau cludo

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn o oedran ysgol gorfodol—

(a)os yw'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol,

(b)os yw'r amgylchiadau a nodir mewn cofnod yng ngholofn 1 y tabl canlynol yn gymwys i'r plentyn, ac

(c)os bodlonir yr amod, neu'r holl amodau, a nodir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 y tabl mewn perthynas â'r plentyn.

(2)Rhaid i'r awdurdod lleol wneud trefniadau cludo addas i hwyluso'r ffordd i'r plentyn fynychu bob dydd y mannau perthnasol lle y mae'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant. Ond mae'r ddyletswydd hon yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 5.

TABL

Colofn 1Colofn 2
AmgylchiadauAmod(au)

Mae'r plentyn yn cael addysg gynradd mewn—

(a)

ysgol a gynhelir,

(b)

uned cyfeirio disgyblion,

(c)

ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu

(d)

ysgol arbennig nas cynhelir,

lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig.

(a)

Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 2 filltir (3.218688 o gilometrau) neu fwy o'r ysgol neu'r uned.

(b)

Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol i alluogi'r plentyn i ddod yn ddisgybl cofrestredig mewn—

(i)

ysgol a gynhelir sy'n ysgol addas,

(ii)

uned cyfeirio disgyblion sy'n uned addas,

(iii)

ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu

(iv)

ysgol arbennig nas cynhelir sy'n ysgol addas,

ac sy'n nes at y man lle y mae'r plentyn yn preswylio fel arfer.

(c)

Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awrdurdod lleol ar gyfer llety byrddio addas i'r plentyn yn yr ysgol neu'r uned neu'n agos at yr ysgol neu'r uned.

Mae'r plentyn yn cael addysg uwchradd mewn—

(a)

ysgol a gynhelir,

(b)

uned cyfeirio disgyblion,

(c)

ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu

(d)

ysgol arbennig nas cynhelir,

lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig.

(a)

Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 3 milltir (4.828032 o gilometrau) neu fwy o'r ysgol neu'r uned.

(b)

Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol i alluogi'r plentyn i ddod yn ddisgybl cofrestredig mewn—

(i)

ysgol a gynhelir sy'n ysgol addas,

(ii)

uned cyfeirio disgyblion sy'n uned addas,

(iii)

ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu

(iv)

ysgol arbennig nas cynhelir sy'n ysgol addas,

ac sy'n nes at y man lle y mae'r plentyn yn preswylio fel arfer.

(c)

Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol ar gyfer llety byrddio addas i'r plentyn yn yr ysgol neu'r uned neu'n agos at yr ysgol neu'r uned.

Mae'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant mewn sefydliad yn y sector addysg bellach lle y mae'r plentyn wedi ymrestru fel myfyriwr llawnamser.
(a)

Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 3 milltir (4.828032 o gilometrau) neu fwy o'r sefydliad.

(b)

Nid oes trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol i alluogi'r plentyn i ymrestru mewn sefydliad addas sy'n nes at y man lle y mae'r plentyn yn preswylio fel arfer.

Mae'r plentyn—

(a)

yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, a

(b)

yn cael addysg uwchradd mewn man perthnasol ac eithrio'r ysgol honno.

Addysg sydd wedi ei threfnu gan y canlynol yw'r addysg uwchradd y cyfeirir ati ym mharagraff (b)—

(i)

gan yr awdurdod lleol, neu

(ii)

gan gorff llywodraethu yr ysgol lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig, neu ar ran y corff llywodraethu.

Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 3 milltir (4.828032 o gilometrau) neu fwy o'r man perthnasol.

Mae'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ac mae'n cael addysg gynradd mewn—

(a)

ysgol a gynhelir,

(b)

uned cyfeirio disgyblion,

(c)

ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu

(d)

ysgol arbennig nas cynhelir,

lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig.

Mae'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn man sydd 2 filltir (3.218688 o gilometrau) neu fwy o'r ysgol neu'r uned.

Mae'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ac mae'n cael addysg uwchradd mewn—

(a)

ysgol a gynhelir,

(b)

uned cyfeirio disgyblion,

(c)

ysgol annibynnol a enwir mewn datganiad a gedwir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu

(d)

ysgol arbennig nas cynhelir,

lle y mae'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig.

Mae'r plentyn fel arfer yn preswylio mewn man sydd 3 milltir (4.828032 o gilometrau) neu fwy o'r ysgol neu'r uned.

(3)Rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chodi tâl ar blentyn neu riant sy'n unigolyn am unrhyw drefniadau cludo a wneir yn unol â'r adran hon.

(4)Caiff trefniadau cludo a wneir yn unol â'r adran hon gynnwys—

(a)darparu cludiant;

(b)talu'r cyfan, ond nid rhan, o dreuliau cludo plentyn.

(5)At ddibenion is-adran (2), nid yw trefniadau cludo'n addas—

(a)os ydynt yn peri lefelau afresymol o straen i'r plentyn,

(b)os ydynt yn cymryd amser afresymol o hir, neu

(c)os nad ydynt yn ddiogel.

(6)At ddibenion pob paragraff (b) yn ail golofn y tabl yn yr adran hon, mae'r ysgol, yr uned neu'r sefydliad yn addas i'r plentyn os yw'r addysg neu'r hyfforddiant a ddarperir yno yn addas, o ystyried oed, gallu a doniau'r plentyn ac unrhyw anawsterau dysgu a all fod ganddo.

(7)Mae'r pellteroedd a grybwyllir yng ngholofn 2 y tabl yn yr adran hon i'w mesur ar hyd y ffordd fyrraf sydd ar gael.

(8)Mae ffordd “ar gael” at ddibenion is-adran (7)—

(a)os yw'n ddiogel i blentyn heb anabledd neu anhawster dysgu gerdded y ffordd ar ei ben ei hun, neu

(b)os yw'n ddiogel i'r cyfryw blentyn gerdded y ffordd gyda hebryngwr, pe byddai oed y plentyn yn galw am ddarparu hebryngwr.

(9)Caiff rheoliadau bennu amgylchiadau ac amodau at ddibenion paragraffau (b) ac (c) o is-adran (1); caiff y cyfryw reoliadau ddiwygio'r tabl neu ddiwygio is-adrannau (6), (7) ac (8) (gan gynnwys diddymu cofnod yn y tabl neu yn yr is-adrannau hynny).

4Dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau teithio eraill

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn o oedran ysgol gorfodol—

(a)os yw'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant mewn man perthnasol,

(b)os yw'r plentyn yn preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol, ac

(c)os yw'r awdurdod lleol o'r farn bod angen trefniadau teithio er mwyn hwyluso'r ffordd i'r plentyn fynychu bob dydd y man perthnasol lle y mae'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant.

(2)Rhaid i'r awdurdod lleol wneud trefniadau teithio addas i hwyluso'r ffordd i'r plentyn fynychu bob dydd y mannau perthnasol lle y mae'r plentyn yn cael addysg neu hyfforddiant. Ond mae'r ddyletswydd hon yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 5.

(3)Rhaid i awdurdod lleol beidio â chodi tâl ar blentyn neu riant sy'n unigolyn am unrhyw drefniadau teithio a wneir yn unol ag is-adran (2).

(4)Caiff trefniadau teithio a wneir yn unol ag is-adran (2) gynnwys talu'r cyfan, ond nid rhan, o dreuliau teithio plentyn.

(5)Wrth ystyried a yw trefniadau teithio yn addas at ddibenion yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol roi sylw'n benodol—

(a)i'r asesiad a wneir ganddo yn unol ag adran 2(2);

(b)i'r trefniadau cludo y mae dyletswydd arno i'w gwneud ar gyfer y plentyn o dan adran 3;

(c)i oed y plentyn;

(d)i unrhyw anabledd neu anhawster dysgu sydd gan y plentyn;

(e)i natur y ffyrdd y gellid yn rhesymol ddisgwyl i'r plentyn eu dilyn.

(6)At ddibenion yr adran hon nid yw trefniadau teithio'n addas—

(a)os ydynt yn peri lefelau afresymol o straen i'r plentyn,

(b)os ydynt yn cymryd amser afresymol o hir, neu

(c)os nad ydynt yn ddiogel.

(7)Wrth ystyried a yw trefniadau teithio'n angenrheidiol at ddibenion yr adran hon—

(a)rhaid i awdurdod lleol roi sylw'n benodol i'r materion a bennir yn is-adran (5);

(b)caiff awdurdod lleol roi sylw'n benodol i ba un a yw'r plentyn yn mynychu'r man perthnasol addas agosaf at fan preswyl arferol y plentyn ai peidio.

(8)Mae is-adran (7)(b) yn gymwys—

(a)os nad yw'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, a

(b)os yw trefniadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol i alluogi'r plentyn i fynychu man perthnasol addas sy'n nes at fan preswyl arferol y plentyn.

(9)At ddibenion yr adran hon, mae man perthnasol yn addas i blentyn os yw'r addysg neu'r hyfforddiant a ddarperir yno yn addas, o ystyried oed, gallu a doniau'r plentyn ac unrhyw anawsterau dysgu a all fod ganddo.

5Terfynau dyletswyddau sy'n ymwneud â theithio gan ddysgwyr

Nid yw adran 2 yn ei gwneud yn ofynnol i asesu anghenion teithio dysgwyr ac nid yw adrannau 3 a 4 yn ei gwneud yn ofynnol i wneud trefniadau teithio—

(a)er mwyn i ddysgwyr deithio yn ystod y dydd rhwng mannau perthnasol neu rhwng gwahanol safleoedd yr un sefydliad, neu

(b)at unrhyw ddiben ac eithrio mynychu man perthnasol i gael addysg neu hyfforddiant.

6Pŵer awdurdodau lleol i wneud trefniadau teithio i ddysgwyr

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â dysgwr—

(a)os yw'r dysgwr yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu

(b)os yw'r dysgwr yn cael addysg neu hyfforddiant yn ardal yr awdurdod lleol.

(2)Caiff yr awdurdod lleol wneud trefniadau teithio i hwyluso'r ffordd i'r dysgwr fynychu man lle y mae'r person hwnnw'n cael addysg neu hyfforddiant.

(3)Caiff awdurdod lleol godi tâl am drefniadau teithio a wneir o dan yr adran hon ar gyfer disgyblion cofrestredig o oedran ysgol gorfodol yn unol â darpariaethau adrannau 455 a 456 o Ddeddf Addysg 1996.

(4)Caiff awdurdod lleol godi tâl am drefniadau teithio a wneir o dan yr adran hon ar gyfer dysgwyr eraill.

7Trefniadau teithio i ddysgwyr mewn addysg neu hyfforddiant ôl-16

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â dysgwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru a'r rheini —

(a)yn ddysgwyr—

(i)sydd dros oedran ysgol gorfodol ond heb fod eto'n 19 oed, neu

(ii)sydd wedi cyrraedd 19 oed ac wedi cychwyn ar gwrs addysg neu hyfforddiant penodol cyn cyrraedd yr oedran hwnnw ac sy'n parhau i fynychu'r cwrs hwnnw; a

(b)yn ddysgwyr sy'n cael addysg neu hyfforddiant—

(i)mewn man yng Nghymru, neu

(ii)a gyllidir gan Weinidogion Cymru mewn man y tu allan i Gymru.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch trefniadau teithio i ddysgwyr i'r mannau lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant ac oddi yno.

(3)Caiff y rheoliadau yn benodol—

(a)rhoi pwerau i'r canlynol neu osod dyletswyddau arnynt—

(i)Gweinidogion Cymru;

(ii)awdurdodau lleol;

(iii)sefydliadau yn y sector addysg bellach;

(b)pennu'r mathau o fan y caniateir, neu y mae'n rhaid, gwneud trefniadau teithio i fynd yno ac oddi yno;

(c)pennu'r trefniadau teithio y caniateir, neu y mae'n rhaid, eu gwneud;

(d)pennu'r materion y mae'n rhaid rhoi ystyriaeth iddynt wrth wneud penderfyniadau am drefniadau teithio;

(e)gwneud darpariaeth ynghylch codi tâl;

(f)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ei hangen neu ei angen ar unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau'r person arall o dan y rheoliadau;

(g)gwneud darpariaeth ynghylch y safonau ymddygiad y mae'n ofynnol i ddysgwyr eu harddel tra byddant yn teithio i'r mannau lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant neu o'r mannau hynny.

8Trefniadau teithio i fan lle y darperir addysg feithrin ac oddi yno

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch trefniadau teithio i blant o dan oedran ysgol gorfodol i'r mannau lle y maent yn cael addysg feithrin ac oddi yno.

(2)Caiff y rheoliadau'n benodol—

(a)ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau teithio;

(b)caniata[acute]u i awdurdod lleol wneud trefniadau teithio;

(c)pennu'r mathau o fan y caniateir gwneud, neu y mae'n rhaid gwneud, trefniadau teithio yno ac oddi yno;

(d)pennu'r trefniadau teithio y caniateir, neu y mae'n rhaid, eu gwneud;

(e)pennu'r materion y mae'n rhaid eu hystyried wrth wneud penderfyniadau am drefniadau teithio;

(f)gwneud darpariaeth ynghylch codi tâl;

(g)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ei hangen neu ei angen ar yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau'r awdurdod o dan y rheoliadau.

9Trefniadau teithio i ddysgwyr a'r rheini'n drefniadau nad ydynt i ffafrio mathau penodol o addysg neu hyfforddiant

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os gwneir trefniadau o dan adran 3, adran 4 neu adran 6 mewn cysylltiad â dysgwyr o fath a ddisgrifir mewn cofnod yng ngholofn 1 y tabl a ganlyn.

(2)Rhaid gwneud trefniadau hefyd yn unol â'r adrannau hynny mewn cysylltiad â'r dysgwyr o fath a ddisgrifir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 y tabl.

(3)Rhaid i'r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (2) beidio â bod yn llai ffafriol na'r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1).

TABL

Colofn 1Colofn 2
Plant o oedran ysgol gorfodol sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn ysgolion a gynhelir.Plant yr un oed sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn mannau perthnasol eraill.
Dysgwyr sydd dros yr oedran ysgol gorfodol ac sy'n cael addysg lawnamser neu hyfforddiant llawnamser mewn ysgolion a gynhelir.Dysgwyr yr un oed sy'n cael addysg lawnamser neu hyfforddiant llawnamser mewn mannau perthnasol eraill.
Dysgwyr a chanddynt anawsterau dysgu sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn ysgolion a gynhelir.Dysgwyr yr un oed a chanddynt anawsterau dysgu sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn mannau perthnasol eraill.
Dysgwyr a chanddynt anabledd sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn ysgolion a gynhelir.Dysgwyr yr un oed a chanddynt anabledd sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn mannau perthnasol eraill.
Plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol ac sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn ysgolion a gynhelir.Plant yr un oed sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol ac sy'n cael addysg neu hyfforddiant mewn mannau perthnasol eraill.

Hybu mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg

10Hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg

Rhaid i bob awdurdod lleol a Gweinidogion Cymru hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg pan fyddant yn arfer swyddogaethau o dan y Mesur hwn.

Dulliau teithio cynaliadwy

11Dulliau teithio cynaliadwy

(1)Rhaid i bob awdurdod lleol a Gweinidogion Cymru hybu'r defnydd o ddulliau teithio cynaliadwy pan fyddant yn arfer swyddogaethau o dan y Mesur hwn.

(2)Dulliau teithio yw “dulliau teithio cynaliadwy” y mae'r awdurdod neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) o'r farn eu bod yn ddulliau a all wella'r naill beth a ganlyn neu'r llall neu'r naill beth a ganlyn a'r llall sef—

(a)llesiant corfforol y rhai sy'n eu defnyddio;

(b)llesiant amgylchedd—

(i)ardal gyfan yr awdurdod lleol neu ran ohoni, yn achos awdurdod, neu

(ii)Cymru gyfan neu ran ohoni, yn achos Gweinidogion Cymru.

Cod ymddygiad wrth deithio

12Cod ymddygiad wrth deithio

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio cod ymddygiad wrth deithio.

(2)Cod yw cod ymddygiad wrth deithio sy'n nodi'r safonau ymddygiad y mae'n ofynnol i ddysgwyr y mae is-adran (3) yn gymwys iddynt eu harddel tra byddant yn teithio i'r mannau perthnasol lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant ac oddi yno (pa un a ydynt yn manteisio ar drefniadau teithio a wneir gan awdurdod lleol ai peidio).

(3)Mae'r is-adran hon yn gymwys—

(a)i ddysgwyr nad ydynt eto'n 19 oed;

(b)i ddysgwr sydd wedi cyrraedd 19 oed ac wedi cychwyn ar gwrs addysg neu hyfforddiant cyn cyrraedd yr oedran hwnnw ac sy'n parhau i fynychu'r cwrs hwnnw;

(c)i'r cyfryw ddysgwyr eraill ag a ragnodir.

(4)O bryd i'w gilydd, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r cod ymddygiad wrth deithio.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi'r cod.

(6)Cyn llunio cod neu ei adolygu rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r cyfryw bersonau ag y maent o'r farn eu bod yn briodol.

13Gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: disgyblion mewn ysgolion perthnasol

(1)Diwygir adran 89 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2), ar ôl “The head teacher” mewnosoder “of a relevant school in England”.

(3)Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)The head teacher of a relevant school in Wales must in determining such measures—

(a)act in accordance with the current statement made by the governing body under section 88(2)(a),

(b)have regard to any notification or guidance given to him under section 88(2)(b), and

(c)require pupils at the school to comply with the travel behaviour code made by the Welsh Ministers under section 12 of the Learner Travel (Wales) Measure 2008.

(4)Yn is-adran (3) yn lle “The” rhodder “In relation to a relevant school in England, the”.

(5)Ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A)In relation to a relevant school in Wales, the standard of behaviour which is to be regarded as acceptable must be determined by the head teacher, so far as it is not determined by—

(a)the governing body, or

(b)the Welsh Ministers.

(6)Yn is-adran (5), ar ôl “head teacher” mewnosoder “of a relevant school in England”.

(7)Ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A)The measures which the head teacher of a relevant school in Wales determines under subsection (1) may, to such extent as is reasonable and not required by subsection (2A)(c), include measures to be taken with a view to regulating the conduct of pupils at a time when they are not on the premises of the school and are not under the lawful control or charge of a member of the staff of the school.

14Gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: tynnu'n ôl drefniadau teithio

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i ddysgwyr y gwneir trefniadau teithio ar eu cyfer o dan adran 3 neu 4.

(2)Caiff yr awdurdod lleol dynnu'n ôl drefniadau teithio a wnaed ar gyfer dysgwr—

(a)os yw'r awdurdod yn fodlon bod y dysgwr wedi methu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad wrth deithio a wnaed o dan adran 12, a

(b)os bodlonir yr amodau canlynol sy'n gymwys i'r dysgwr.

(3)Mae'r chwe amod canlynol i gyd yn gymwys i unrhyw ddysgwr sy'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol berthnasol.

(4)Mae'r cyntaf, y trydydd a'r pedwerydd o'r amodau canlynol yn gymwys i unrhyw ddysgwr nad yw'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol berthnasol.

(5)Yr amod cyntaf yw, cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud i dynnu'n ôl drefniadau teithio—

(a)bod cyfle'n cael ei roi i'r dysgwr ac i riant y dysgwr i wneud sylwadau, a

(b)bod yr awdurdod lleol yn ystyried y sylwadau hynny.

(6)Yr ail amod yw—

(a)yr ymgynghorir â phennaeth yr ysgol berthnasol lle y mae'r dysgwr yn ddisgybl cofrestredig ynghylch y penderfyniad i dynnu'n ôl drefniadau teithio; a

(b)yr hysbysir pennaeth yr ysgol berthnasol lle y mae'r dysgwr yn ddisgybl cofrestredig o'r penderfyniad o leiaf 24 awr cyn bydd tynnu'n ôl y trefniadau yn dod yn effeithiol.

(7)Y trydydd amod yw bod y penderfyniad i dynnu'n ôl drefniadau teithio yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

(8)Y pedwerydd amod yw bod yr awdurdod lleol yn hysbysu rhiant y dysgwr, o leiaf 24 awr cyn i dynnu'n ôl y trefniadau ddod yn effeithiol, bod y trefniadau teithio'n cael eu tynnu'n ôl.

(9)Y pumed amod yw nad yw'r cyfnod pan yw'r trefniadau wedi eu tynnu'n ôl yn fwy na 10 niwrnod ysgol dilynol.

(10)Y chweched amod yw na fyddai'r cyfnod pan yw'r trefniadau wedi eu tynnu'n ôl yn arwain at dynnu'n ôl drefniadau teithio oddi wrth y dysgwr am fwy na 30 o ddiwrnodau ysgol yn y flwyddyn ysgol y mae tynnu'n ôl y trefniadau yn dod yn effeithiol ynddi.

(11)Wrth benderfynu a yw penderfyniad i dynnu'n ôl drefniadau teithio yn rhesymol at ddibenion is-adran (7), rhaid ystyried yn benodol y materion canlynol—

(a)a yw'r cyfnod pan yw'r trefniadau wedi eu tynnu'n ôl yn gymesur ag amgylchiadau'r achos,

(b)unrhyw amgylchiadau arbennig sy'n berthnasol i dynnu'n ôl drefniadau teithio ac sy'n hysbys i'r awdurdod lleol (neu y dylai'r awdurdod lleol fod yn ymwybodol ohonynt) gan gynnwys yn arbennig—

(i)oed y dysgwr,

(ii)unrhyw anghenion addysgol arbennig a all fod gan y dysgwr,

(iii)unrhyw anabledd a all fod gan y dysgwr,

(iv)a fyddai'r dysgwr yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus, a

(v)a all rhiant y dysgwr yn rhesymol wneud trefniadau teithio amgen sy'n rhai addas.

(12)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (6) neu is-adran (8) fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo nodi'n benodol—

(a)y cyfnod pan yw trefniadau teithio wedi eu tynnu'n ôl, a

(b)rhesymau'r awdurdod dros dynnu'n ôl y trefniadau teithio.

(13)At ddibenion yr adran hon ac adran 17, ystyr “ysgol berthnasol” yw—

(a)ysgol a gynhelir,

(b)uned cyfeirio disgyblion, neu

(c)ysgol arbennig nas cynhelir.

(14)Caiff rheoliadau—

(a)diwygio neu ddiddymu y naill neu'r llall o is-adrannau (9) a (10), neu'r ddwy;

(b)gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu penderfyniadau a wneir o dan is-adran (2);

(c)gwneud darpariaeth ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir o dan is-adran (2).

(15)Caiff rheoliadau o dan is-adran (14)(c) yn benodol—

(a)pennu'r categorïau o berson a gaiff apelio;

(b)pennu'r amgylchiadau pan ganiateir apelio;

(c)darparu ar gyfer cyfansoddiad panelau apelio;

(d)darparu ar gyfer gweithdrefnau apelio;

(e)gwneud darpariaeth ynghylch effaith penderfyniadau apêl;

(f)darparu ar gyfer talu lwfansau i aelodau o banelau apelio;

(g)ei gwneud yn ofynnol i ddarparu gwybodaeth ynglŷn ag apelau.

Atodol

15Canllawiau a chyfarwyddiadau

(1)Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Mesur hwn, rhaid i'r cyrff canlynol roi sylw i ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru—

(a)awdurdodau lleol;

(b)cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir;

(c)cyrff llywodraethu sefydliadau yn y sector addysg bellach.

(2)Rhaid i awdurdod lleol wneud y cyfryw drefniadau teithio i ddysgwyr o dan adran 3, adran 4 neu adran 6 ag y mae Gweinidogion Cymru yn ei gyfarwyddo i'w gwneud.

(3)Wrth wneud trefniadau o dan adran 3, adran 4 neu adran 6 rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(4)Caniateir i gyfarwyddiadau o dan yr adran hon gael eu rhoi i un awdurdod lleol neu fwy neu i awdurdodau lleol yn gyffredinol.

16Gwybodaeth am drefniadau teithio

Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyhoeddi, ar y cyfryw adegau ac yn y cyfryw fodd ag a ragnodir, wybodaeth—

(a)a ddaw i law wrth wneud asesiadau o dan adran 2(2);

(b)am asesiadau a wneir o dan yr adran honno;

(c)am y trefniadau teithio a wneir o dan y Mesur hwn;

(d)am y cod ymddygiad wrth deithio a wneir o dan adran 12.

17Cydweithredu: gwybodaeth neu gymorth arall

(1)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru roi i awdurdod lleol unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ar awdurdod lleol ei hangen neu ei angen er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan y Mesur hwn.

(2)Rhaid i awdurdod lleol roi i awdurdod lleol arall unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ar awdurdod lleol arall ei hangen neu ei angen er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adrannau 2, 3, 4 a 6.

(3)Rhaid i awdurdod lleol roi i bennaeth ysgol berthnasol unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ar bennaeth ei hangen neu ei angen ynghylch ymddygiad disgybl cofrestredig yn ei ysgol tra oedd y disgybl yn manteisio ar drefniadau teithio a wnaed gan yr awdurdod lleol o dan y Mesur hwn.

(4)Rhaid i bennaeth ysgol berthnasol roi i awdurdod lleol unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ar yr awdurdod lleol ei hangen neu ei angen er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 14.

18Talu costau teithio gan awdurdod lleol y mae plentyn yn derbyn gofal ganddo

(1)Mae'r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn gwneud trefniadau teithio o dan adran 3 neu adran 4 ar gyfer plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol sy'n gyfrifol am ardal wahanol (“awdurdod B”).

(2)Caiff awdurdod A alw ar i awdurdod B ad-dalu'r cyfan neu ran o'r gost o wneud trefniadau teithio.

(3)Rhaid i awdurdod B gydymffurfio â'r galw am ad-dalu.

19Penderfynu ar breswylfa arferol mewn amgylchiadau arbennig

(1)Os nad oes gan berson breswylfa arferol, mae'r person hwnnw i'w drin at ddibenion y Mesur hwn fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y man lle y mae'n preswylio am y tro.

(2)Mae is-adrannau (3) i (6) yn gymwys i blentyn neu berson ifanc sydd naill ai—

(a)yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol, neu

(b)wedi ymrestru yn fyfyriwr llawnamser mewn sefydliad yn y sector addysg bellach.

(3)Mae'r is-adran hon yn gymwys i blentyn neu berson ifanc—

(a)nad yw ei rieni'n cyd-fyw, a

(b)sy'n byw fel arfer gyda mwy nag un rhiant yn ystod y cyfnodau pan yw'r plentyn neu'r person ifanc yn cael addysg neu hyfforddiant.

(4)Mae'r is-adran hon yn gymwys i blentyn neu berson ifanc sy'n byw fel arfer gyda rhiant ac mewn cartref plant hefyd yn ystod y cyfnodau pan yw'r plentyn neu'r person ifanc yn cael addysg neu hyfforddiant.

(5)At ddibenion y Mesur hwn—

(a)mae plentyn neu berson ifanc y mae is-adran (3) yn gymwys iddo yn preswylio fel arfer yn y mannau lle y mae y naill o'i rieni a'r llall yn preswylio fel arfer;

(b)mae plentyn neu berson ifanc y mae is-adran (4) yn gymwys iddo yn preswylio fel arfer yn y cartref plant ac yn y man lle y mae ei riant yn preswylio fel arfer.

(6)Ond os oes mwy na dau o'r cyfryw fannau, mae'r plentyn neu'r person ifanc yn preswylio fel arfer yn y ddau fan sydd agosaf—

(a)at yr ysgol lle y mae'r plentyn neu'r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig, neu

(b)at y sefydliad yn y sector addysg bellach lle y mae'r plentyn neu'r person ifanc wedi ymrestru'n fyfyriwr llawnamser.

(7)Yn yr adran hon—

(a)mae i “cartref plant” yr ystyr sydd i “children’s home” yn adran 1 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14);

(b)ystyr “rhiant” yw rhiant o fewn yr ystyr sydd i “parent” yn adran 576(1) o Ddeddf Addysg 1996 ac sy'n unigolyn.

20Diwygiadau i adran 444 o Ddeddf Addysg 1996

(1)Diwygir adran 444 o Ddeddf Addysg 1996 (mynychu'r ysgol) fel a ganlyn.

(2)Yn lle is-adran (4) rhodder—

(4)The child is not to be taken to have failed to attend regularly at the school if the parent proves that the local authority have failed to discharge—

(a)a duty to make transport arrangements in relation to the child under section 3 of the Learner Travel (Wales) Measure 2008, or

(b)a duty to make travel arrangements in relation to the child under section 4 of that Measure.

(3)Yn is-adran (5) yn lle “subsections (3D) and (4)” rhodder “subsection (3D)”.

21Diwygiadau i Ddeddf Addysg 2002

(1)Diwygir Deddf Addysg 2002 fel a ganlyn.

(2)Diwygir adran 32 (pennu dyddiadau tymhorau a gwyliau ac amserau sesiynau ysgol) fel a ganlyn—

(a)yn is-adran (1)(b) o flaen “the governing body” mewnosoder “subject to subsections (5) to (9),”;

(b)yn is-adran (2)(b) o flaen “the times” mewnosoder “subject to subsections (5) to (9)”;

(c)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(5)Subsections (1)(b) and (2)(b) do not apply in relation to a school in Wales in the circumstances specified in subsection (6).

(6)The circumstances are—

(a)that the local education authority in whose area the school is situated have given notice in writing to the governing body of the school that the times of the school sessions are to be determined in accordance with subsection (8), and

(b)that the notice has not been withdrawn by the local education authority.

(7)A local education authority must not issue a notice of the kind mentioned in subsection (6)(a) unless they consider a change in the times of the sessions of that school to be necessary or expedient in order to—

(a)promote the use of sustainable modes of travel within the meaning of section 11 of the Learner Travel (Wales) Measure 2008, or

(b)improve the effectiveness or efficiency of travel arrangements made, or to be made, by the authority under that Measure.

(8)In relation to a school subject to a notice of the kind mentioned in subsection (6)(a)—

(a)where there are two school sessions on the relevant school day—

(i)the local education authority must determine the time each day at which the first school session starts and the second school session ends, and

(ii)the governing body must determine the time each day at which the first school session ends and the second school session starts;

(b)where there is one school session on the relevant school day the local education authority must determine the time each day at which the school session starts and ends.

(9)The Welsh Ministers may make provision by regulations—

(a)as to the procedure to be followed where the local education authority propose to issue a notice of the kind mentioned in subsection (6)(a);

(b)as to the matters to be included in such a notice;

(c)as to the implementation of any determination under subsection (8);

(d)for enabling the local education authority to determine, for any purposes of the regulations, whether any person is to be treated as a parent of a registered pupil at the school.

(10)In giving notice as described in subsection (6) and in discharging any function conferred by subsections (7) or (8) or by regulations under subsection (9), a local education authority must have regard to guidance given by the Welsh Ministers.

(3)Yn adran 210 (gorchmynion a rheoliadau)—

(a)yn is-adran (1) yn lle “the National Assembly for Wales” rhodder “the Welsh Ministers”;

(b)ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(6A)Any statutory instrument containing regulations made under section 32(9) by the Welsh Ministers is subject to annulment in pursuance of a resolution of the National Assembly for Wales.

(6B)Paragraphs 33 to 35 of Schedule 11 to the Government of Wales Act 2006 make provision about the National Assembly for Wales procedures that apply to any statutory instrument containing regulations or an order made in exercise of functions conferred upon the National Assembly for Wales by this Act that have been transferred to the Welsh Ministers by virtue of paragraph 30 of that Schedule.;

(c)yn is-adran (7)—

(i)yn lle “the National Assembly for Wales” rhodder “the Welsh Ministers”,

(ii)yn lle “the Assembly thinks” ym mharagraff (c) rhodder “the Welsh Ministers think”.

22Diwygiadau i adrannau 455 a 456 o Ddeddf Addysg 1996

(1)Diwygir Deddf Addysg 1996 fel a ganlyn.

(2)Yn adran 455 (taliadau a ganiateir)—

(a)ar ôl is-adran (1)(b) mewnosoder—

(ba)travel arrangements provided under section 6 of the Learner Travel (Wales) Measure 2008 (“the Measure”) for a registered pupil at a maintained school in Wales, other than arrangements in respect of which, by virtue of section 454(3) of this Act or sections 3 or 4 of the Measure, no charge may be made,;

(b)yn is-adran (1)(c) ar ôl “maintained school” mewnosoder “in England” a hepgorer “or 509(2)”;

(c)ar ddiwedd is-adran (2)(b) hepgorer “or”;

(d)ar ôl is-adran (2)(b) mewnosoder—

(ba)by virtue of subsection (1)(ba) in respect of the provision for a pupil of travel arrangements, or;

(e)yn is-adran (3) ar ôl “entry” mewnosoder “travel arrangements,”.

(3)Yn adran 456 (rheoleiddio taliadau a ganiateir), yn is-adran (3) ar ôl “A regulated charge” mewnosoder “, except any charge permitted by virtue of section 455(1)(ba),”.

23Diwygiadau i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006

(1)Diwygir Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 fel a ganlyn.

(2)Yn adran 162 (pŵer i ddiddymu cyfeiriadau at “local education authority”), ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A)The Welsh Ministers may by order make such provision as appears to them to be appropriate for the purpose of—

(a)repealing any reference in a Measure of the National Assembly for Wales to a local education authority (however expressed), and

(b)replacing it, where it appears to them to be appropriate, with a reference (however expressed) to a Welsh local authority.

(3)Yn adran 181—

(a)yn lle is-adran (1) rhodder—

(1)Any power of the Secretary of State or the Welsh Ministers to make an order or regulations under this Act is exercisable by statutory instrument.;

(b)yn is-adran (2)—

(i)yn lle “the Assembly”, y tro cyntaf y ceir yr ymadrodd hwnnw, rhodder “the Welsh Ministers”,

(ii)yn lle “the Assembly thinks” ym mharagraff (c) rhodder “the Welsh Ministers think”.

(4)Ar ôl adran 182 mewnosoder—

182AAssembly control of orders and regulations

(1)Any statutory instrument containing an order made under section 162(5A) by the Welsh Ministers may not be made unless a draft of the instrument has been laid before, and approved by a resolution of, the Assembly.

(2)Paragraphs 33 to 35 of Schedule 11 to the Government of Wales Act 2006 make provision about the Assembly procedures that apply to any statutory instrument containing regulations or an order made in exercise of functions conferred upon the Assembly by this Act that have been transferred to the Welsh Ministers by virtue of paragraph 30 of that Schedule.

Cyffredinol

24Dehongli cyffredinol

(1)Yn y Mesur hwn—

(2)Mae i gyfeiriadau yn y Mesur hwn at blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yr un ystyr ag sydd iddynt yn adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989 (p.41).

(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (4), mae Deddf Addysg 1996 a darpariaethau'r Mesur hwn i'w darllen fel pe bai'r darpariaethau hynny wedi eu cynnwys yn Neddf Addysg 1996.

(4)Os rhoddir i ymadrodd, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn, ystyr sy'n wahanol i'r ystyr a roddir iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, yr ystyr a roddir iddo at ddibenion y ddarpariaeth honno sydd i fod yn gymwys yn lle'r ystyr a roddir at ddibenion y Ddeddf honno.

25Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Mae Atodlen 1 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy'n ymwneud â'r darpariaethau a wneir gan y Mesur hwn.

26Diddymiadau

Diddymir y deddfiadau a bennir yn Atodlen 2 i'r graddau a bennir.

27Gorchmynion a rheoliadau

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion neu ardaloedd gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;

(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, trosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.

(3)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan adran 3(9), adran 7 neu adran 8 hefyd yn cynnwys pŵer i wneud y cyfryw ddarpariaeth ganlyniadol ag y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda ei gwneud.

(4)Caiff y ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, trosiannol, arbed neu ganlyniadol sydd i'w gwneud mewn rheoliadau gynnwys y cyfryw ddarpariaeth ag sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw un o ddarpariaethau—

(a)y Mesur hwn neu unrhyw un arall o Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a basiwyd cyn y Mesur hwn neu yn yr un flwyddyn Cynulliad ag ef;

(b)Deddf a basiwyd cyn pasio'r Mesur hwn;

(c)is-ddeddfwriaeth a wnaed cyn pasio'r Mesur hwn.

(5)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Nid yw is-adran (5) yn gymwys i reoliadau y mae is-adran (7) yn gymwys iddynt.

(7)Ni chaniateir i offeryn statudol gael ei wneud sy'n cynnwys (wrth eu hunain neu ynghyd â darpariaethau eraill)—

(a)rheoliadau o dan adran 3(9),

(b)rheoliadau o dan adran 7,

(c)rheoliadau o dan adran 8,

(d)rheoliadau o dan adran 14(14)(a), neu

(e)rheoliadau o dan is-adran (4) sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw un neu rai o ddarpariaethau Deddf neu Fesur Cynulliad,

onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

28Cychwyn

(1)Daw'r darpariaethau canlynol i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis yn dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor—

(2)Daw darpariaethau'r Mesur hwn sy'n weddill i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

29Enw byr a chynnwys y Mesur yn y Deddfau Addysg

(1)Enw'r Mesur hwn yw Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.

(2)Mae'r Mesur hwn i'w gynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a geir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996.

(a gyflwynir gan adran 25)

ATODLEN 1MÅN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Deddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981 (p.14)

1Yn adran 46 o Ddeddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981 (teithwyr sy'n talu pris tocyn ar fysiau ysgol), yn is-adran (3), yn y diffiniad o “free school transport”—

(a)ym mharagraff (a) hepgorer “section 509(1) or (1A)”;

(b)hepgorer “or” ar ddiwedd paragraff (aa);

(c)ar ôl paragraff (aa) mewnosoder—

(ab)in pursuance of arrangements under sections 3 or 4 of the Learner Travel (Wales) Measure 2008, or.

Deddf Trafnidiaeth 1985 (p.67)

2(1)Diwygir adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (cofrestru gwasanaethau lleol) fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1B)—

(a)hepgorer “section 509(1) or (1A),” ym mharagraff (a);

(b)hepgorer “or” ar ddiwedd paragraff (b);

(c)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(d)the obligation placed on a local authority by sections 3 or 4 of the Learner Travel (Wales) Measure 2008; or

(e)the exercise of the power of a local authority under section 6 of that Measure.

(3)Yn is-adran (1C)(a), yn lle “or (c)” rhodder “, (c), (d) or (e)”.

Deddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992 (p.13)

3(1)Diwygir adran 57 o Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992 fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2)(b) ar ôl “any Act” mewnosoder “or any Measure of the National Assembly for Wales”.

(3)Yn is-adran (2)(c) ar ôl “any Act” mewnosoder “or any Measure of the National Assembly for Wales”.

Deddf Addysg 1996 (p.56)

4(1)Diwygir Deddf Addysg 1996 fel a ganlyn.

(2)Yn adran 509AA (darparu cludiant ar gyfer personau o oedran chweched dosbarth)—

(a)yn is-adran (1) ar ôl “authority” mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (2)(d) hepgorer “or the National Assembly for Wales”;

(c)yn is-adran (9) yn lle “appropriate authority may, if it” rhodder “Secretary of State may, if he”;

(d)hepgorer is-adran (9A);

(e)yn is-adran (10) hepgorer y geiriau “(in relation to local education authorities in England) or the National Assembly for Wales (in relation to local education authorities in Wales)”.

(3)Yn adran 509AB (darpariaeth bellach ynghylch datganiadau polisi cludiant)—

(a)hepgorer is-adran (4);

(b)yn is-adran (5), yn lle'r geiriau o “under this section” i'r diwedd rhodder “under this section by the Learning and Skills Council for England.”;

(c)yn is-adran (6)—

(i)ym mharagraff (c) hepgorer “(in the case of a local education authority in England)”;

(ii)ym mharagraff (d) hepgorer y geiriau ar ôl “England” i ddiwedd y paragraff hwnnw y tro cyntaf y mae'r gair hwnnw'n ymddangos.

(4)Yn adran 509AC (dehongli adrannau 509AA a 509AB)—

(a)hepgorer is-adran (3);

(b)yn is-adran (6) hepgorer y geiriau ar ôl “subsection (5)” i ddiwedd yr is-adran honno;

(c)hepgorer is-adran (7).

(5)Yn adran 509A (trefniadau teithio i blant sy'n cael addysg blynyddoedd cynnar ac eithrio mewn ysgol)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “authority” mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (4A), ar ôl “Regulations” mewnosoder “made by the Secretary of State”;

(c)yn is-adran (5) (fel y mae wedi ei hamnewid gan baragraff 23 o Atodlen 2 i Ddeddf Gofal Plant 2006 (p.21)), hepgorer “in relation to England,” a pharagraff (b).

Deddf Gofal Plant 2006 (p.21)

5Yn adran 110(5)(a) o Ddeddf Gofal Plant 2006, yn lle “20 to 24” rhodder “20 to 22, 24”.

(cyflwynir gan adran 26)

ATODLEN 2DIDDYMIADAU

Enw byr a phennodGraddau'r diddymiad
Deddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981 (p.14)Yn adran 46(3)(a) y geiriau “section 509(1) or (1A)”.
Deddf Trafnidiaeth 1985 (p.67)Yn adran 6(1B) y geiriau “section 509(1) or (1A)” ym mharagraff (a) a'r gair “or” ym mharagraff (b).
Deddf Addysg 1996 (p.56)Yn adran 444(5) y geiriau “and (4)”.
Yn adran 455, yn is-adran (1)(c) y geiriau “or 509(2)” ac yn is-adran (2)(b) “or” ar ddiwedd yr is-adran.
Adran 509.
Yn adran 509AA, yn is-adran (2)(d) y geiriau “or the National Assembly for Wales”, is-adran (9A), ac yn is-adran (10) y geiriau “(in relation to local education authorities in England) or the National Assembly for Wales (in relation to local education authorities in Wales)”.
Yn adran 509AB, is-adran (4), yn is-adran (6)(c) y geiriau “(in the case of a local education authority in England)”, yn is-adran (6)(d) y geiriau ar ôl “England” i ddiwedd yr is-adran honno y tro cyntaf y mae'r gair hwnnw'n ymddangos.
Yn adran 509AC, is-adran (3), yn is-adran (6) y geiriau ar ôl “subsection (5)” i ddiwedd yr is-adran, is-adran (7).
Yn adran 509A, yn is-adran (5), y geiriau “in relation to England,” a pharagraff (b).
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31)Atodlen 30, paragraff 133.
Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21)Atodlen 9, paragraff 59.
Deddf Addysg 2002 (p.32)Atodlen 19, paragraff 2.
Atodlen 21, paragraff 51.
Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40)Adran 83, is-adran (1), yn is-adran (2) y geiriau ar ôl “England” i ddiwedd yr is-adran honno y tro cyntaf y mae'r gair yn ymddangos, ac is-adran (3).
Atodlen 10, paragraffau 4 a 5(b).