CyffredinolLL+C

24Dehongli cyffredinolLL+C

(1)Yn y Mesur hwn—

  • nid yw “addysg” (“education”) yn cynnwys addysg uwch;

  • ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg sy'n addas i blant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol;

  • mae i “anabledd” yr ystyr sydd i “disability” ac i “person anabl” yr ystyr sydd i “disabled person” yn adran 1 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (p.50);

  • ystyr “anhawster dysgu” (“learning difficulty”) mewn cysylltiad â pherson yw—

    (a)

    anhawster i ddysgu sy'n sylweddol fwy nag sydd gan y mwyafrif o bersonau yr un oed, neu

    (b)

    anabledd sydd naill ai'n atal y person hwnnw rhag defnyddio cyfleusterau o fath a ddarperir mewn mannau perthnasol, neu sy'n ei lesteirio wrth iddo eu defnyddio,

    ond ni ddylid cymryd bod gan berson anhawster dysgu dim ond oherwydd bod yr iaith (neu'r ffurf ar yr iaith) y dysgir y person drwyddi (yn awr neu yn y dyfodol) yn wahanol i iaith (neu ffurf ar iaith) sydd wedi ei siarad ar unrhyw adeg yng nghartref y person;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw [F1awdurdod lleol] yng Nghymru; ond mewn unrhyw gyfeiriad at blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol ei ystyr yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru sy'n arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol o fewn yr ystyr yn [F2Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.] 1970 (p.42);

  • ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw unrhyw gyfnod o 1 Awst i 31 Gorffennaf;

  • ystyr “profiad gwaith” (“work experience”) yw profiad gwaith a drefnir ar gyfer—

    (a)

    un o ddisgyblion cofrestredig ysgol a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion, neu

    (b)

    myfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach,

    gan gorff llywodraethu'r sefydliad addysg perthnasol, neu ar ran y corff llywodraethu;

  • ystyr “rhagnodi” (“prescribed”) yw rhagnodi mewn rheoliadau;

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir;

  • ystyr “ysgol arbennig nas cynhelir” (“non-maintained special school”) yw ysgol a gymeradwywyd o dan adran 342 o Ddeddf Addysg 1996.

(2)Mae i gyfeiriadau yn y Mesur hwn at blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yr un ystyr ag sydd iddynt yn [F3adran 74 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014] 1989 (p.41).

(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (4), mae Deddf Addysg 1996 a darpariaethau'r Mesur hwn i'w darllen fel pe bai'r darpariaethau hynny wedi eu cynnwys yn Neddf Addysg 1996.

(4)Os rhoddir i ymadrodd, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn, ystyr sy'n wahanol i'r ystyr a roddir iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, yr ystyr a roddir iddo at ddibenion y ddarpariaeth honno sydd i fod yn gymwys yn lle'r ystyr a roddir at ddibenion y Ddeddf honno.

25Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae Atodlen 1 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy'n ymwneud â'r darpariaethau a wneir gan y Mesur hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 25 mewn grym ar 6.3.2009 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1

I5A. 25 mewn grym ar 1.9.2009 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2

26DiddymiadauLL+C

Diddymir y deddfiadau a bennir yn Atodlen 2 i'r graddau a bennir.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 26 mewn grym ar 6.3.2009 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1

I8A. 26 mewn grym ar 1.9.2009 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/371, ergl. 2(2), Atod. Rhn. 2

I9A. 26 mewn grym ar 30.10.2009 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/2819, ergl. 2(1)(c)

27Gorchmynion a rheoliadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion neu [F4ddosbarthau ar achos neu ddibenion gwahanol neu] ardaloedd gwahanol;

[F5(aa)i wneud darpariaeth yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig;]

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion [F6neu ddosbarthau ar achos] penodol;

(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, trosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.

(3)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan adran 3(9), F7... [F87, 8, 14B, 14C, 14D, 14E, 14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1] hefyd yn cynnwys pŵer i wneud y cyfryw ddarpariaeth ganlyniadol ag y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda ei gwneud.

(4)Caiff y ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, trosiannol, arbed neu ganlyniadol sydd i'w gwneud mewn rheoliadau gynnwys y cyfryw ddarpariaeth ag sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw un o ddarpariaethau—

(a)y Mesur hwn neu unrhyw un arall o Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a basiwyd cyn y Mesur hwn neu yn yr un flwyddyn Cynulliad ag ef;

(b)Deddf a basiwyd cyn pasio'r Mesur hwn;

(c)is-ddeddfwriaeth a wnaed cyn pasio'r Mesur hwn.

[F9(4A)Wrth gymhwyso is-adran (4) i reoliadau a wneir o dan adrannau 14B i 14F, adran 14H neu 14L neu Atodlen A1 mae'r cyfeiriad at “y Mesur hwn” yn is-adran (4) i'w ddehongli fel cyfeiriad at Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2011.]

(5)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Nid yw is-adran (5) yn gymwys i reoliadau y mae is-adran (7) yn gymwys iddynt.

(7)Ni chaniateir i offeryn statudol gael ei wneud sy'n cynnwys (wrth eu hunain neu ynghyd â darpariaethau eraill)—

(a)rheoliadau o dan adran 3(9),

(b)rheoliadau o dan adran 7,

(c)rheoliadau o dan adran 8,

(d)rheoliadau o dan adran 14(14)(a), F10...

[F11(da)rheoliadau o dan adran 14B, 14C, 14D, 14E, 14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1, neu]

[F11(db)gorchymyn o dan adran 14N(6).]

(e)rheoliadau o dan is-adran (4) sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw un neu rai o ddarpariaethau Deddf neu Fesur Cynulliad,

onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

28CychwynLL+C

(1)Daw'r darpariaethau canlynol i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis yn dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor—

  • yr adran hon;

  • adran 27;

  • adran 29.

(2)Daw darpariaethau'r Mesur hwn sy'n weddill i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 28 mewn grym ar 10.2.2009, gweler a. 28(1)

29Enw byr a chynnwys y Mesur yn y Deddfau AddysgLL+C

(1)Enw'r Mesur hwn yw Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.

(2)Mae'r Mesur hwn i'w gynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a geir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 29 mewn grym ar 10.2.2009, gweler a. 28(1)