xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

CyffredinolLL+C

24Dehongli cyffredinolLL+C

(1)Yn y Mesur hwn—

(2)Mae i gyfeiriadau yn y Mesur hwn at blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yr un ystyr ag sydd iddynt yn adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989 (p.41).

(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (4), mae Deddf Addysg 1996 a darpariaethau'r Mesur hwn i'w darllen fel pe bai'r darpariaethau hynny wedi eu cynnwys yn Neddf Addysg 1996.

(4)Os rhoddir i ymadrodd, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn, ystyr sy'n wahanol i'r ystyr a roddir iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, yr ystyr a roddir iddo at ddibenion y ddarpariaeth honno sydd i fod yn gymwys yn lle'r ystyr a roddir at ddibenion y Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 24 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 24 mewn grym ar 6.3.2009 gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1

25Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae Atodlen 1 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy'n ymwneud â'r darpariaethau a wneir gan y Mesur hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 25 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I4A. 25 mewn grym ar 6.3.2009 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1

26DiddymiadauLL+C

Diddymir y deddfiadau a bennir yn Atodlen 2 i'r graddau a bennir.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 26 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 28(2)

I6A. 26 mewn grym ar 6.3.2009 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/371, ergl. 2(1), Atod. Rhn. 1

27Gorchmynion a rheoliadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion neu ardaloedd gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;

(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, trosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.

(3)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan adran 3(9), adran 7 neu adran 8 hefyd yn cynnwys pŵer i wneud y cyfryw ddarpariaeth ganlyniadol ag y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda ei gwneud.

(4)Caiff y ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, trosiannol, arbed neu ganlyniadol sydd i'w gwneud mewn rheoliadau gynnwys y cyfryw ddarpariaeth ag sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw un o ddarpariaethau—

(a)y Mesur hwn neu unrhyw un arall o Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a basiwyd cyn y Mesur hwn neu yn yr un flwyddyn Cynulliad ag ef;

(b)Deddf a basiwyd cyn pasio'r Mesur hwn;

(c)is-ddeddfwriaeth a wnaed cyn pasio'r Mesur hwn.

(5)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Nid yw is-adran (5) yn gymwys i reoliadau y mae is-adran (7) yn gymwys iddynt.

(7)Ni chaniateir i offeryn statudol gael ei wneud sy'n cynnwys (wrth eu hunain neu ynghyd â darpariaethau eraill)—

(a)rheoliadau o dan adran 3(9),

(b)rheoliadau o dan adran 7,

(c)rheoliadau o dan adran 8,

(d)rheoliadau o dan adran 14(14)(a), neu

(e)rheoliadau o dan is-adran (4) sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw un neu rai o ddarpariaethau Deddf neu Fesur Cynulliad,

onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 27 mewn grym ar 10.2.2009, gweler a. 28(1)

28CychwynLL+C

(1)Daw'r darpariaethau canlynol i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis yn dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor—

(2)Daw darpariaethau'r Mesur hwn sy'n weddill i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 28 mewn grym ar 10.2.2009, gweler a. 28(1)

29Enw byr a chynnwys y Mesur yn y Deddfau AddysgLL+C

(1)Enw'r Mesur hwn yw Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.

(2)Mae'r Mesur hwn i'w gynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a geir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 29 mewn grym ar 10.2.2009, gweler a. 28(1)