I1I27Cyngor cyfreithiol, etc.

1

Yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) a (4), caiff y rheoliadau wneud y ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas—

a

ar gyfer darparu cyngor cyfreithiol di-dâl i unigolion sy'n ceisio iawn o dan y rheoliadau;

b

ar gyfer darparu gwasanaethau eraill, gan gynnwys gwasanaethau arbenigwyr meddygol, mewn cysylltiad â chais am iawn o dan y rheoliadau.

2

Rhaid i'r rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn briodol er mwyn sicrhau bod unigolion y caniateir gwneud cynnig o iawn iddynt o dan y rheoliadau yn cael ymofyn am gyngor cyfreithiol yn ddi-dâl mewn perthynas ag—

a

unrhyw gynnig a wneir,

b

unrhyw wrthodiad i wneud y cyfryw gynnig; ac

c

unrhyw gytundeb setlo.

3

Caiff darpariaeth o dan is-adran (1)(a) neu (2) ynghylch pwy a gaiff ddarparu'r cyngor cyfreithiol gael ei gweithredu drwy gyfeirio at restr sy'n cynnwys darparwyr posibl ac a lunnir gan berson neu gorff penodedig.

4

Os yw'r rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau arbenigwyr meddygol, rhaid iddynt ddarparu hefyd bod yr arbenigwyr hynny yn cael eu cyfarwyddo ar y cyd gan y corff neu'r person sy'n gweithredu'r trefniadau iawn o dan y rheoliadau a chan yr unigolyn sy'n ceisio iawn.