6Atal dros dro gyfnod y cyfyngiad
(1)
Rhaid i'r rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer diystyru'r cyfnod pryd y mae atebolrwydd yn destun cais am iawn o dan y rheoliadau at ddibenion cyfrifo p'un a yw unrhyw gyfnod cyfyngiad perthnasol wedi dod i ben ai peidio.
(2)
Mae'r cyfeiriad yn is-adran (1) at unrhyw gyfnod cyfyngiad perthnasol yn gyfeiriad at unrhyw gyfnod o amser ar gyfer codi achos sifil mewn perthynas รข'r atebolrwydd a ragnodir gan Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980 (p.58) neu unrhyw ddeddfiad arall neu odanynt.
(3)
Caiff y rheoliadau ddiffinio at ddibenion darpariaeth yn unol ag is-adran (1) pan fydd atebolrwydd yn destun cais am iawn o dan y rheoliadau.