4Dyletswydd i ystyried y posibilrwydd o gymhwyso trefniadau iawnLL+C

(1)Caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gorff neu berson a grybwyllir yn is-adran (2)—

(a)ystyried, o dan yr amgylchiadau y bydd y rheoliadau yn darparu ar eu cyfer, p'un a yw achos y mae'r corff neu'r person yn ymchwilio iddo neu yn ei adolygu yn cynnwys atebolrwydd y dichon fod iawn ar gael ar ei gyfer, a

(b)os ymddengys ei fod ar gael, cymryd unrhyw gamau y mae'r rheoliadau yn eu darparu.

(2)Y cyrff neu'r personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yw—

(a)unrhyw gorff neu berson y mae'r rheoliadau yn gymwys i'w atebolrwydd, a

(b)unrhyw gorff arall neu unrhyw berson arall a ragnodir gan Weinidogion Cymru yn y rheoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 14(3)

I2A. 4 mewn grym ar 7.2.2011 gan O.S. 2011/211, ergl. 2, Atod.