4Dyletswydd i ystyried y posibilrwydd o gymhwyso trefniadau iawn
(1)
Caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gorff neu berson a grybwyllir yn is-adran (2)—
(a)
ystyried, o dan yr amgylchiadau y bydd y rheoliadau yn darparu ar eu cyfer, p'un a yw achos y mae'r corff neu'r person yn ymchwilio iddo neu yn ei adolygu yn cynnwys atebolrwydd y dichon fod iawn ar gael ar ei gyfer, a
(b)
os ymddengys ei fod ar gael, cymryd unrhyw gamau y mae'r rheoliadau yn eu darparu.
(2)
Y cyrff neu'r personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yw—
(a)
unrhyw gorff neu berson y mae'r rheoliadau yn gymwys i'w atebolrwydd, a
(b)
unrhyw gorff arall neu unrhyw berson arall a ragnodir gan Weinidogion Cymru yn y rheoliadau.