3Ymofyn am Iawn

(1)

Caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas ynglŷn ag ymofyn am iawn.

(2)

Caiff y rheoliadau yn benodol wneud darpariaeth—

(a)

am bwy a gaiff ymofyn am iawn;

(b)

am sut y caniateir ymofyn am iawn;

(c)

am derfynau amser mewn perthynas ag ymofyn am iawn;

(d)

am amgylchiadau pan na chaniateir ymofyn am iawn.