2Iawn o dan y rheoliadau

(1)

Yn ddarostyngedig i is-adrannau (2), (3) a (6), caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas ynglŷn ag iawn.

(2)

Rhaid i'r rheoliadau ddarparu mai'r canlynol yw elfennau iawn fel arfer—

(a)

cynnig digollediad yn iawn am unrhyw hawl i godi achos sifil o ran yr atebolrwydd dan sylw;

(b)

rhoi esboniad;

(c)

ymddiheuro mewn ysgrifen; a

(d)

rhoi adroddiad ar y camau a gymerwyd neu a gymerir i atal achosion tebyg rhag codi;

ond caiff y rheoliadau bennu amgylchiadau pan na fydd angen un neu ragor o'r ffurfiau hyn ar iawn.

(3)

Rhaid i'r rheoliadau ddarparu nad yw iawn yn gymwys mewn perthynas ag atebolrwydd sydd neu a fu'n destun achos sifil.

(4)

Caiff y rheoliadau, yn benodol—

(a)

gwneud darpariaeth i'r digollediad y caniateir ei gynnig gymryd ffurf gwneud contract i ddarparu gofal neu driniaeth neu ddigollediad ariannol, neu'r ddau;

(b)

gwneud darpariaeth ynglŷn â'r amgylchiadau pan ganiateir cynnig ffurfiau gwahanol ar ddigollediad.

(5)

Os yw'r rheoliadau yn darparu ar gyfer cynnig digollediad ariannol, cânt yn benodol—

(a)

gwneud darpariaeth ynglŷn â pha faterion y caniateir cynnig digollediad ariannol mewn perthynas â hwy;

(b)

gwneud darpariaeth mewn perthynas ag asesu swm unrhyw ddigollediad ariannol.

(6)

O ran y rheoliadau sy'n darparu ar gyfer cynnig digollediad ariannol—

(a)

cânt bennu terfyn uchaf ar y swm o ddigollediad ariannol y caniateir ei gynnwys mewn cynnig o iawn a wneir yn unol â'r rheoliadau;

(b)

rhaid iddynt, os nad ydynt yn pennu terfyn o dan baragraff (a), bennu terfyn uchaf ar y swm o ddigollediad ariannol y caniateir ei gynnwys yn y cyfryw gynnig mewn perthynas â phoen a dioddefaint;

(c)

ni chânt bennu unrhyw derfyn arall ar yr hyn y caniateir ei gynnwys yn y cyfryw gynnig o ran digollediad ariannol.