12Pwer i wneud darpariaeth atodol a chanlyniadol bellach etc.

1

Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg drwy reoliadau wneud—

a

unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig neu ganlyniadol, neu

b

unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed,

y maent yn barnu ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn, o ganlyniad iddi neu er mwyn rhoi effaith lawn iddi.

2

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) yn benodol wneud darpariaeth—

a

sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw ddeddfiad a basiwyd cyn neu yn ystod yr un flwyddyn Cynulliad â'r Mesur hwn, a

b

sy'n diwygio neu'n dirymu unrhyw is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr Deddf Dehongli 1978 (p.30)) a wnaed cyn pasio'r Mesur hwn.