1Pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ar gyfer iawn am gamweddau'r GIG
1
Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy gyfrwng rheoliadau at ddiben galluogi darparu iawn heb godi achos sifil o dan amgylchiadau pan fydd yr adran hon yn gymwys.
2
Mae'r adran hon yn gymwys pan fo atebolrwydd cymwys mewn camwedd o dan gyfraith Cymru a Lloegr ar ran corff neu berson a grybwyllir yn is-adran (3) yn codi mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau cymwys yng Nghymru neu yn rhywle arall fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
3
Y cyrff neu'r personau y cyfeirir atynt yn is-adran (2) yw—
a
Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru;
b
Bwrdd Iechyd Lleol;
c
Awdurdod Iechyd Arbennig;
d
Gweinidogion Cymru;
e
corff neu berson sy'n darparu, neu'n trefnu ar gyfer darparu, gwasanaethau y mae eu darparu yn destun trefniadau gyda chorff neu berson a grybwyllir ym mharagraff (a) i (d).
4
Mae'r cyfeiriad yn is-adran (2) at atebolrwydd cymwys mewn camwedd yn gyfeiriad at atebolrwydd mewn camwedd sy'n ddyledus o ran neu o ganlyniad i anaf personol neu golled sy'n deillio o dor-dyletswydd gofal neu sy'n gysylltiedig ag ef a'r ddyletswydd gofal honno yn ddyledus i unrhyw berson mewn cysylltiad â diagnosio salwch, neu wrth ofalu am unrhyw glaf neu ei drin,—
a
o ganlyniad i unrhyw weithred neu anweithred gan broffesiynolyn gofal iechyd, neu
b
o ganlyniad i unrhyw weithred neu anweithred gan unrhyw gorff arall neu unrhyw berson arall y bydd Gweinidogion Cymru yn ei bennu gan y rheoliadau.
5
At ddibenion is-adran (2), mae gwasanaethau yn wasanaethau cymwys os ydynt o unrhyw ddisgrifiad (gan gynnwys disgrifiad sy'n cynnwys darpariaeth y tu allan i Gymru) y bydd Gweinidogion Cymru yn ei bennu gan y rheoliadau.
6
Yn is-adran (3)(e), nid yw'r cyfeiriad at berson sy'n darparu gwasanaethau yn cynnwys person sy'n darparu gwasanaethau o dan gontract cyflogaeth.