Adran 9 - Swyddogaethau o ran trefniadau iawn
15.Mae'r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru nodi mewn rheoliadau'r swyddogaethau a fydd gan unrhyw berson neu gorff o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru o ran gweithredu'r trefniadau iawn. Yn benodol, mae is-adran (2) yn nodi y caiff y rhain gynnwys swyddogaethau ynghylch ymofyn am iawn, gwneud taliadau, monitro a chasglu data, etc.
16.Mae is-adran (3) yn gwneud darpariaeth ar gyfer cadw cofnodion a rhoi i unrhyw gorff neu berson gyfrifoldeb dros oruchwylio bod y trefniadau'n cael eu cyflawni'n briodol a sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu. Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i'r rheoliadau wneud darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gorff neu berson a bennir gyhoeddi adroddiad blynyddol ar yr achosion y mae'n ymdrin â hwy a'r gwersi a ddysgwyd ((is-adran (4)) ac i roi sylw i'r cyngor a'r canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru (is-adran (6)). Mae'r adran yn caniatáu hefyd ar gyfer rheoliadau i ddarparu ar gyfer swyddogaethau sydd i'w harfer ar y cyd (is-adran (5)).
