Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008

Legislation Crest

Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008

2008 mccc 1

MESUR gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynglŷn â threfniadau ar gyfer gwneud iawn mewn perthynas ag atebolrwydd mewn camwedd mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarperir fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru; ac at ddibenion cysylltiedig.

Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 6 Mai 2008 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn ei Chyngor ar 9 Gorffennaf 2008, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:–

Valid from 07/02/2011

1Pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ar gyfer iawn am gamweddau'r GIGLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy gyfrwng rheoliadau at ddiben galluogi darparu iawn heb godi achos sifil o dan amgylchiadau pan fydd yr adran hon yn gymwys.

(2)Mae'r adran hon yn gymwys pan fo atebolrwydd cymwys mewn camwedd o dan gyfraith Cymru a Lloegr ar ran corff neu berson a grybwyllir yn is-adran (3) yn codi mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau cymwys yng Nghymru neu yn rhywle arall fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

(3)Y cyrff neu'r personau y cyfeirir atynt yn is-adran (2) yw—

(a)Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru;

(b)Bwrdd Iechyd Lleol;

(c)Awdurdod Iechyd Arbennig;

(d)Gweinidogion Cymru;

(e)corff neu berson sy'n darparu, neu'n trefnu ar gyfer darparu, gwasanaethau y mae eu darparu yn destun trefniadau gyda chorff neu berson a grybwyllir ym mharagraff (a) i (d).

(4)Mae'r cyfeiriad yn is-adran (2) at atebolrwydd cymwys mewn camwedd yn gyfeiriad at atebolrwydd mewn camwedd sy'n ddyledus o ran neu o ganlyniad i anaf personol neu golled sy'n deillio o dor-dyletswydd gofal neu sy'n gysylltiedig ag ef a'r ddyletswydd gofal honno yn ddyledus i unrhyw berson mewn cysylltiad â diagnosio salwch, neu wrth ofalu am unrhyw glaf neu ei drin,—

(a)o ganlyniad i unrhyw weithred neu anweithred gan broffesiynolyn gofal iechyd, neu

(b)o ganlyniad i unrhyw weithred neu anweithred gan unrhyw gorff arall neu unrhyw berson arall y bydd Gweinidogion Cymru yn ei bennu gan y rheoliadau.

(5)At ddibenion is-adran (2), mae gwasanaethau yn wasanaethau cymwys os ydynt o unrhyw ddisgrifiad (gan gynnwys disgrifiad sy'n cynnwys darpariaeth y tu allan i Gymru) y bydd Gweinidogion Cymru yn ei bennu gan y rheoliadau.

(6)Yn is-adran (3)(e), nid yw'r cyfeiriad at berson sy'n darparu gwasanaethau yn cynnwys person sy'n darparu gwasanaethau o dan gontract cyflogaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 14(3)

Valid from 07/02/2011

2Iawn o dan y rheoliadauLL+C

(1)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (2), (3) a (6), caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas ynglŷn ag iawn.

(2)Rhaid i'r rheoliadau ddarparu mai'r canlynol yw elfennau iawn fel arfer—

(a)cynnig digollediad yn iawn am unrhyw hawl i godi achos sifil o ran yr atebolrwydd dan sylw;

(b)rhoi esboniad;

(c)ymddiheuro mewn ysgrifen; a

(d)rhoi adroddiad ar y camau a gymerwyd neu a gymerir i atal achosion tebyg rhag codi;

ond caiff y rheoliadau bennu amgylchiadau pan na fydd angen un neu ragor o'r ffurfiau hyn ar iawn.

(3)Rhaid i'r rheoliadau ddarparu nad yw iawn yn gymwys mewn perthynas ag atebolrwydd sydd neu a fu'n destun achos sifil.

(4)Caiff y rheoliadau, yn benodol—

(a)gwneud darpariaeth i'r digollediad y caniateir ei gynnig gymryd ffurf gwneud contract i ddarparu gofal neu driniaeth neu ddigollediad ariannol, neu'r ddau;

(b)gwneud darpariaeth ynglŷn â'r amgylchiadau pan ganiateir cynnig ffurfiau gwahanol ar ddigollediad.

(5)Os yw'r rheoliadau yn darparu ar gyfer cynnig digollediad ariannol, cânt yn benodol—

(a)gwneud darpariaeth ynglŷn â pha faterion y caniateir cynnig digollediad ariannol mewn perthynas â hwy;

(b)gwneud darpariaeth mewn perthynas ag asesu swm unrhyw ddigollediad ariannol.

(6)O ran y rheoliadau sy'n darparu ar gyfer cynnig digollediad ariannol—

(a)cânt bennu terfyn uchaf ar y swm o ddigollediad ariannol y caniateir ei gynnwys mewn cynnig o iawn a wneir yn unol â'r rheoliadau;

(b)rhaid iddynt, os nad ydynt yn pennu terfyn o dan baragraff (a), bennu terfyn uchaf ar y swm o ddigollediad ariannol y caniateir ei gynnwys yn y cyfryw gynnig mewn perthynas â phoen a dioddefaint;

(c)ni chânt bennu unrhyw derfyn arall ar yr hyn y caniateir ei gynnwys yn y cyfryw gynnig o ran digollediad ariannol.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 14(3)

Valid from 07/02/2011

3Ymofyn am IawnLL+C

(1)Caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas ynglŷn ag ymofyn am iawn.

(2)Caiff y rheoliadau yn benodol wneud darpariaeth—

(a)am bwy a gaiff ymofyn am iawn;

(b)am sut y caniateir ymofyn am iawn;

(c)am derfynau amser mewn perthynas ag ymofyn am iawn;

(d)am amgylchiadau pan na chaniateir ymofyn am iawn.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 14(3)

Valid from 07/02/2011

4Dyletswydd i ystyried y posibilrwydd o gymhwyso trefniadau iawnLL+C

(1)Caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gorff neu berson a grybwyllir yn is-adran (2)—

(a)ystyried, o dan yr amgylchiadau y bydd y rheoliadau yn darparu ar eu cyfer, p'un a yw achos y mae'r corff neu'r person yn ymchwilio iddo neu yn ei adolygu yn cynnwys atebolrwydd y dichon fod iawn ar gael ar ei gyfer, a

(b)os ymddengys ei fod ar gael, cymryd unrhyw gamau y mae'r rheoliadau yn eu darparu.

(2)Y cyrff neu'r personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yw—

(a)unrhyw gorff neu berson y mae'r rheoliadau yn gymwys i'w atebolrwydd, a

(b)unrhyw gorff arall neu unrhyw berson arall a ragnodir gan Weinidogion Cymru yn y rheoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 14(3)

Valid from 07/02/2011

5Dull darparu iawnLL+C

(1)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) i (6), caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas ynglyn â sut y mae iawn i'w ddarparu.

(2)Caiff y rheoliadau, yn benodol, wneud darpariaeth—

(a)ynglŷn ag ymchwilio i geisiadau am iawn a wneir o dan y rheoliadau (gan gynnwys darpariaeth ar gyfer goruchwylio'r ymchwiliad gan unigolyn o ddisgrifiad penodedig);

(b)ynglŷn â ffurf a chynnwys cytundebau setlo o dan y rheoliadau;

(c)i gytundebau setlo o dan y rheoliadau fod yn ddarostyngedig mewn achosion o ddisgrifiad penodedig i'w cymeradwyo gan lys;

(d)ynglŷn â'r weithdrefn i'w dilyn pan fydd yr adeg a'r amgylchiadau cyfryw fel na chaniateir canlyn arni gyda cheisiadau am iawn o dan y rheoliadau mwyach.

(3)Rhaid i'r rheoliadau—

(a)gwneud darpariaeth ar gyfer terfynau amser ac unrhyw estyniadau iddynt mewn perthynas â—

(i)trefnu a chwblhau ymchwiliad;

(ii)gwneud cynnig o iawn; a

(iii)derbyn cynnig o iawn;

o dan y rheoliadau,

(b)gwneud darpariaeth ar gyfer cofnodi mewn adroddiad ganfyddiadau ymchwiliad i achos pan fo unigolyn yn ceisio iawn o dan y rheoliadau, a

(c)yn ddarostyngedig i is-adran (4), gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi copi o'r adroddiad i'r unigolyn sy'n ceisio iawn.

(4)Caiff y rheoliadau ddarparu nad oes angen rhoi copi o adroddiad ymchwiliad—

(a)cyn i gynnig o iawn o dan y rheoliadau gael ei wneud neu cyn i'r achos gael ei ddirwyn i ben am unrhyw reswm;

(b)pan fo'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth sy'n debygol o achosi niwed neu ofid arwyddocaol i'r claf neu i geisydd arall; neu

(c)o dan unrhyw amgylchiadau eraill a bennir.

(5)Rhaid i'r rheoliadau ddarparu bod cytundeb setlo am iawn a wneir o dan y rheoliadau yn cynnwys ildiad o unrhyw hawl i godi achos sifil mewn perthynas â'r atebolrwydd y mae a wnelo'r setliad ag ef.

(6)Rhaid i'r rheoliadau ddarparu na chaniateir ceisio iawn o dan y rheoliadau bellach os daw'r atebolrwydd y ceisir iawn yn ei gylch yn destun achos sifil.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 14(3)

Valid from 07/02/2011

6Atal dros dro gyfnod y cyfyngiadLL+C

(1)Rhaid i'r rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer diystyru'r cyfnod pryd y mae atebolrwydd yn destun cais am iawn o dan y rheoliadau at ddibenion cyfrifo p'un a yw unrhyw gyfnod cyfyngiad perthnasol wedi dod i ben ai peidio.

(2)Mae'r cyfeiriad yn is-adran (1) at unrhyw gyfnod cyfyngiad perthnasol yn gyfeiriad at unrhyw gyfnod o amser ar gyfer codi achos sifil mewn perthynas â'r atebolrwydd a ragnodir gan Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980 (p.58) neu unrhyw ddeddfiad arall neu odanynt.

(3)Caiff y rheoliadau ddiffinio at ddibenion darpariaeth yn unol ag is-adran (1) pan fydd atebolrwydd yn destun cais am iawn o dan y rheoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 6 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 14(3)

Valid from 07/02/2011

7Cyngor cyfreithiol, etc.LL+C

(1)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) a (4), caiff y rheoliadau wneud y ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas—

(a)ar gyfer darparu cyngor cyfreithiol di-dâl i unigolion sy'n ceisio iawn o dan y rheoliadau;

(b)ar gyfer darparu gwasanaethau eraill, gan gynnwys gwasanaethau arbenigwyr meddygol, mewn cysylltiad â chais am iawn o dan y rheoliadau.

(2)Rhaid i'r rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn briodol er mwyn sicrhau bod unigolion y caniateir gwneud cynnig o iawn iddynt o dan y rheoliadau yn cael ymofyn am gyngor cyfreithiol yn ddi-dâl mewn perthynas ag—

(a)unrhyw gynnig a wneir,

(b)unrhyw wrthodiad i wneud y cyfryw gynnig; ac

(c)unrhyw gytundeb setlo.

(3)Caiff darpariaeth o dan is-adran (1)(a) neu (2) ynghylch pwy a gaiff ddarparu'r cyngor cyfreithiol gael ei gweithredu drwy gyfeirio at restr sy'n cynnwys darparwyr posibl ac a lunnir gan berson neu gorff penodedig.

(4)Os yw'r rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau arbenigwyr meddygol, rhaid iddynt ddarparu hefyd bod yr arbenigwyr hynny yn cael eu cyfarwyddo ar y cyd gan y corff neu'r person sy'n gweithredu'r trefniadau iawn o dan y rheoliadau a chan yr unigolyn sy'n ceisio iawn.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 7 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 14(3)

Valid from 07/02/2011

8Cymorth i unigolion sy'n ceisio iawnLL+C

(1)Dyletswydd Gweinidogion Cymru yw trefnu, i'r graddau y maent yn barnu ei bod yn angenrheidiol er mwyn diwallu pob gofyniad rhesymol, fod cymorth yn cael ei ddarparu (drwy gyfrwng cynrychiolaeth neu fel arall) i unigolion sy'n ceisio iawn, neu'n bwriadu ceisio iawn, o dan y rheoliadau.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw drefniadau eraill y maent yn barnu eu bod yn addas ar gyfer darparu cymorth (drwy gyfrwng cynrychiolaeth neu fel arall) i unigolion mewn cysylltiad ag achosion sy'n destun cais am iawn o dan y rheoliadau.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i unrhyw berson neu gorff yn unol â threfniadau o dan yr adran hon ac adran 7.

(4)Wrth wneud trefniadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i'r egwyddor y dylai darparu gwasanaethau o dan y trefniadau mewn cysylltiad ag achos penodol, i'r graddau y mae'n ymarferol, fod yn annibynnol ar unrhyw berson y mae a wnelo'r achos â'i ymddygiad neu unrhyw berson sydd â rhan yn y gwaith o ymdrin â'r cais am iawn.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 8 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 14(3)

Valid from 07/02/2011

9Swyddogaethau o ran trefniadau iawnLL+C

(1)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i unrhyw berson neu gorff o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru fod â'r swyddogaethau o ran gweithredu trefniadau iawn o dan y Mesur hwn y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn addas.

(2)Caiff y rheoliadau, yn benodol, ddarparu i'r cyfryw bersonau neu gyrff fod â swyddogaethau mewn perthynas ag—

(a)ymofyn am iawn;

(b)taliadau yn iawn o dan gytundebau setlo;

(c)darparu cyngor neu ganllawiau am faterion penodedig mewn cysylltiad â threfniadau iawn;

(d)darparu cyngor cyfreithiol di-dâl mewn cysylltiad â threfniadau iawn;

(e)monitro sut y mae personau neu gyrff yn cyflawni eu swyddogaethau o dan y rheoliadau;

(f)cyhoeddi data blynyddol am y trefniadau iawn.

(3)Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gorff neu berson wrth iddo gyflawni swyddogaethau o dan y rheoliadau—

(a)cadw cofnodion penodedig mewn perthynas â chyflawni'r swyddogaethau hynny;

(b)rhoi cyfrifoldeb i unigolyn o ddisgrifiad penodedig dros oruchwylio sut y mae swyddogaethau penodedig a roddwyd i'r corff hwnnw neu i'r person hwnnw yn cael eu cyflawni o dan y rheoliadau;

(c)rhoi cyfrifoldeb i unigolyn o ddisgrifiad penodedig dros gynghori'r corff neu'r person ynglŷn â'r gwersi sydd i'w dysgu o achosion sy'n ymwneud â'r corff hwnnw neu'r person hwnnw ac yr ymdrinnir â hwy o dan y rheoliadau.

(4)Rhaid i'r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol bod y cyfryw gorff neu berson yn llunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol am achosion sy'n ymwneud â'r corff hwnnw neu â'r person hwnnw ac yr ymdrinnir â hwy o dan y rheoliadau ynghyd â'r gwersi sydd i'w dysgu oddi wrthynt.

(5)Caiff y rheoliadau ddarparu bod unrhyw swyddogaeth sy'n arferadwy gan gorff neu berson o dan y rheoliadau, drwy drefnu gyda'r corff hwnnw neu gyda'r person hwnnw ac yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau ac amodau y mae'r corff hwnnw neu'r person hwnnw yn meddwl eu bod yn addas, gael ei harfer ar ran y corff hwnnw neu'r person hwnnw gan gorff neu berson arall neu ar y cyd â'r corff hwnnw neu'r person hwnnw.

(6)Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gorff neu berson sy'n arfer swyddogaethau o dan y rheoliadau roi sylw i unrhyw gyngor neu ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.

(7)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth ei heffaith yw y bydd gan gorff neu berson ac sydd wedi trefnu ar gyfer darparu gwasanaethau swyddogaethau o dan y rheoliadau sy'n ymwneud ag atebolrwydd rhywun arall mewn cysylltiad â darparu'r gwasanaethau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 9 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 14(3)

Valid from 07/02/2011

10CwynionLL+C

Yn adran 113(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), ar o[circ]l paragraff (c) mewnosoder—

(d)the provision of redress by or for a Welsh NHS body under the NHS Redress (Wales) Measure 2008.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 10 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 14(3)

Valid from 07/02/2011

11Gorchmynion a rheoliadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau a roddir gan y Mesur hwn yn arferadwy gan offeryn statudol.

(2)Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth sy'n rhoi neu'n gosod swyddogaethau sy'n cynnwys arfer disgresiwn;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;

(c)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol; a

(d)i wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, arbed neu drosiannol y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas.

(3)Caniateir arfer unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau neu orchmynion o dan y Mesur hwn (yn ogystal â bod yn arferadwy mewn perthynas â phob achos y mae'n ymestyn iddo) mewn perthynas â'r holl achosion hynny yn ddarostyngedig i eithriadau neu mewn perthynas ag unrhyw achos neu ddosbarth ar achos.

(4)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i'w ddirymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i reoliadau y mae is-adran (6) yn gymwys iddynt.

(6)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sydd—

(a)yn cynnwys rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw ran o destun Deddf Seneddol neu un o Fesurau'r Cynulliad, neu

(b)yn cynnwys y rheoliadau cyntaf o dan adran 1(1), neu

(c)yn cynnwys rheoliadau yn gwneud darpariaeth o dan adran 1(4)(b), adran 1(5), adran 3 neu adran 5, neu

(d)yn cynnwys y rheoliadau cyntaf i wneud darpariaeth o dan adrannau 2, 4, 6, 7 neu 9,

oni bai i ddrafft o'r offeryn gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(7)Nid oes dim yn y Mesur hwn i'w ystyried fel petai'n cyfyngu ar gyffredinolrwydd adrannau 1(1) a 12(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 11 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 14(3)

Valid from 07/02/2011

12Pwer i wneud darpariaeth atodol a chanlyniadol bellach etc.LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg drwy reoliadau wneud—

(a)unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig neu ganlyniadol, neu

(b)unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed,

y maent yn barnu ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn, o ganlyniad iddi neu er mwyn rhoi effaith lawn iddi.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) yn benodol wneud darpariaeth—

(a)sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw ddeddfiad a basiwyd cyn neu yn ystod yr un flwyddyn Cynulliad â'r Mesur hwn, a

(b)sy'n diwygio neu'n dirymu unrhyw is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr Deddf Dehongli 1978 (p.30)) a wnaed cyn pasio'r Mesur hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 12 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 14(3)

Valid from 07/02/2011

13DehongliLL+C

Yn y Mesur hwn—

  • mae “anaf personol” (“personal injury”) yn cynnwys unrhyw glefyd ac unrhyw amhariad ar iechyd corfforol neu feddyliol unigolyn;

  • mae i “claf” yr un ystyr â “patient” yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42);

  • ystyr “y gwasanaeth iechyd yng Nghymru” (“the health service in Wales”) yw'r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o'r Ddeddf honno;

  • ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” (“a health care professional”) yw aelod o broffesiwn (p'un a yw'n cael ei reoleiddio gan unrhyw ddeddfiad neu yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud (yn llwyr neu yn rhannol) ag iechyd corfforol neu iechyd meddyliol unigolion;

  • mae i “salwch” yr un ystyr ag “illness” yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42).

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 13 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 14(3)

14Teitl byr a chychwynLL+C

(1)Enw'r Mesur hwn yw Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008.

(2)Daw'r adran hon i rym ar y diwrnod pan gymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor.

(3)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym ar y diwrnod neu'r diwrnodau a benodir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 14 mewn grym ar 9.7.2008, gweler a. 14(2)