Search Legislation

Renters’ Rights Act 2025

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

Changes over time for: Section 43

 Help about opening options

Alternative versions:

Status:

This version of this provision is prospective. Help about Status

Close

Status

The term provision is used to describe a definable element in a piece of legislation that has legislative effect – such as a Part, Chapter or section. A version of a provision is prospective either:

  1. where the provision (Part, Chapter or section) has never come into force or;
  2. where the text of the provision is subject to change, but no date has yet been appointed by the appropriate person or body for those changes to come into force.

Commencement Orders listed in the ‘Changes to Legislation’ box as not yet applied may bring this prospective version into force.

Changes to legislation:

There are currently no known outstanding effects for the Renters’ Rights Act 2025, Section 43. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Revised legislation carried on this site may not be fully up to date. At the current time any known changes or effects made by subsequent legislation have been applied to the text of the legislation you are viewing by the editorial team. Please see ‘Frequently Asked Questions’ for details regarding the timescales for which new effects are identified and recorded on this site.

Prospective

43Discrimination relating to children or benefits status: Welsh languageE+W

(1)The Welsh language text of the Renting Homes (Fees etc.) (Wales) Act 2019 (anaw 2) is amended as follows.

(2)In section 1, after subsection (2), insert—

(2A)Mae Rhan 2A yn ei gwneud yn drosedd i landlord neu berson sy’n gweithredu ar ran landlord neu’n honni ei fod yn gweithredu ar ran landlord wahaniaethu mewn perthynas â chontractau meddiannaeth yn erbyn personau a fyddai â phlant yn byw gyda hwy neu’n ymweld â hwy neu sy’n hawlyddion budd-daliadau, ac yn gwneud darpariaeth arall ynghylch gwahaniaethu o’r math hwnnw.

(3)After section 8 insert—

Rhan 2AE+WGwahardd gwahaniaethu
8AGwahardd gwahaniaethu yn ymwneud â phlant

(1)Mae’n drosedd i berson perthnasol, mewn perthynas ag annedd sydd i fod yn destun contract meddiannaeth—

(a)ar y sail y byddai plentyn yn byw gyda pherson neu’n ymweld â pherson yn yr annedd, neu y gallai plentyn fyw gyda pherson neu ymweld â pherson yn yr annedd, pe bai’r annedd, yn gartref i’r person, atal y person rhag—

(i)ymholi a yw’r annedd ar gael i’w rhentu,

(ii)cael mynediad at wybodaeth am yr annedd,

(iii)gweld yr annedd er mwyn ystyried a ddylai geisio ei rhentu, neu

(iv)sicrhau contract meddiannaeth mewn cysylltiad â’r annedd neu sicrhau bod contract o’r fath yn cael ei adnewyddu neu ei barhau, neu

(b)cymhwyso darpariaeth, maen prawf neu arfer er mwyn peri bod pobl a fyddai â phlentyn yn byw gyda hwy neu’n ymweld â hwy yn yr annedd yn llai tebygol o sicrhau contract meddiannaeth mewn cysylltiad â’r annedd neu’n llai tebygol o sicrhau bod contract o’r fath yn cael ei adnewyddu neu ei barhau na phobl a fyddai heb blentyn yn byw gyda hwy neu’n ymweld â hwy.

(2)Mae’n amddiffyniad i’r person perthnasol brofi bod yr ymddygiad yn fodd cymesur o gyflawni nod dilys.

(3)Mae’n amddiffyniad i’r person perthnasol brofi bod darpar landlord yr annedd, neu berson a fyddai’n uwchlandlord mewn perthynas â’r annedd, wedi ei yswirio o dan gontract yswiriant—

(a)nad yw adran 8H yn gymwys iddo, a

(b)sy’n cynnwys teler sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sydd wedi ei yswirio wahardd deiliad contract rhag bod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd neu sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r landlord gyfyngu’r amgylchiadau lle caniateir i ddeiliad contract wneud hynny,

a bod yr ymddygiad yn fodd i atal y person sydd wedi ei yswirio rhag torri’r teler hwnnw.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

8BGwahardd gwahaniaethu yn ymwneud â statws o ran budd-daliadau

(1)Mae’n drosedd i berson perthnasol, mewn perthynas ag annedd sydd i fod yn destun contract meddiannaeth—

(a)ar y sail bod person yn hawlydd budd-daliadau neu y gallai fod yn hawlydd budd-daliadau, atal y person rhag—

(i)ymholi a yw’r annedd ar gael i’w rhentu,

(ii)cael mynediad at wybodaeth am yr annedd,

(iii)gweld yr annedd er mwyn ystyried a ddylai geisio ei rhentu, neu

(iv)sicrhau contract meddiannaeth mewn cysylltiad â’r annedd neu sicrhau bod contract o’r fath yn cael ei adnewyddu neu ei barhau, neu

(b)cymhwyso darpariaeth, maen prawf neu arfer er mwyn peri bod hawlyddion budd-daliadau yn llai tebygol o sicrhau contract meddiannaeth mewn cysylltiad â’r annedd neu’n llai tebygol o sicrhau bod contract o’r fath yn cael ei adnewyddu neu ei barhau na phobl nad ydynt yn hawlyddion budd-daliadau.

(2)Mae’n amddiffyniad i’r person perthnasol brofi bod darpar landlord yr annedd, neu berson a fyddai’n uwchlandlord mewn perthynas â’r annedd, wedi ei yswirio o dan gontract yswiriant—

(a)nad yw adran 8H yn gymwys iddo, a

(b)sy’n cynnwys teler sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sydd wedi ei yswirio wahardd deiliad contract ar yr annedd rhag bod yn hawlydd budd-daliadau,

a bod yr ymddygiad yn fodd i atal y person sydd wedi ei yswirio rhag torri’r teler hwnnw.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

8CEithriad ar gyfer cyhoeddi hysbysiadau etc

Nid yw ymddygiad yn gyfystyr a throsedd o dan adran 8A(1) nac adran 8B(1) os nad yw ond yn cynnwys—

(a)un neu ragor o’r pethau a ganlyn a wneir gan berson nad yw’n gwneud dim mewn perthynas â’r annedd sydd heb ei grybwyll yn y paragraff hwn—

(i)cyhoeddi hysbysiadau neu ledaenu gwybodaeth;

(ii)darparu cyfrwng y gall darpar landlord gyfathrebu drwyddo yn uniongyrchol â darpar ddeiliad contract;

(iii)darparu cyfrwng y gall darpar ddeiliad contract gyfathrebu drwyddo yn uniongyrchol â darpar landlord, neu

(b)pethau o ddisgrifiad, neu bethau a wneir gan berson o ddisgrifiad, a bennir at ddibenion yr adran hon mewn rheoliadau.

8DParhau i dorri gwaharddiad ar ôl cosb benodedig

(1)Mae person yn cyflawni trosedd—

(a)os oes hysbysiad cosb benodedig wedi ei roi i’r person o dan adran 13 am drosedd o dan y Rhan hon mewn perthynas ag annedd ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl, a

(b)os yw’r ymddygiad y rhoddwyd yr hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad ag ef yn parhau mewn perthynas â’r annedd honno ar ôl diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o dan adran 13.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

8EAiladrodd tor gwaharddiad ar ôl cosb benodedig

(1)Mae person yn cyflawni trosedd—

(a)os oes hysbysiad cosb benodedig wedi ei roi i’r person o dan adran 13 am drosedd o dan y Rhan hon ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl, a

(b)os yw’r person yn cyflawni trosedd arall o dan yr un adran o fewn y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o dan adran 13.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

8FTelerau mewn uwchlesau yn ymwneud â phlant neu statws o ran budd-daliadau

(1)Nid yw teler mewn les ar fangre sy’n ffurfio annedd neu sy’n cynnwys annedd yn rhwymo i’r graddau y byddai (oni bai am yr adran hon) yn ei gwneud yn ofynnol i denant o dan y les honno neu unrhyw is-les—

(a)gwahardd deiliad contract rhag bod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd, neu

(b)cyfyngu’r amgylchiadau lle caniateir i ddeiliad contract fod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd,

(ond mae’r les yn parhau, i’r graddau y bo hynny’n ymarferol, i gael effaith ym mhob cyswllt arall).

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys—

(a)os yw’r gofyniad yn fodd cymesur o gyflawni nod dilys, neu

(b)os yw’r landlord o dan y les neu uwchlandlord wedi ei yswirio o dan gontract yswiriant—

(i)nad yw adran 8H yn gymwys iddo, a

(ii)sy’n cynnwys teler sy’n gwneud darpariaeth (sut bynnag y’i mynegir) yn ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sydd wedi ei yswirio wahardd deiliad contract rhag bod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd neu gyfyngu’r amgylchiadau lle caniateir i ddeiliad contract fod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd,

a bod y gofyniad yn y les yn fodd i atal y sawl sydd wedi ei yswirio rhag torri’r teler hwnnw.

(3)Nid yw teler mewn les ar fangre sy’n ffurfio annedd neu sy’n cynnwys annedd yn rhwymo i’r graddau y byddai (oni bai am yr adran hon) yn ei gwneud yn ofynnol i denant o dan y les honno neu unrhyw is-les wahardd deiliad contract rhag bod yn hawlydd budd-daliadau (ond mae’r les yn parhau, i’r graddau y bo hynny’n ymarferol, i gael effaith ym mhob cyswllt arall).

(4)Nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw’r landlord o dan y les neu uwchlandlord wedi ei yswirio o dan gontract yswiriant—

(a)nad yw adran 8H yn gymwys iddo, a

(b)sy’n cynnwys teler sy’n gwneud darpariaeth (sut bynnag y’i mynegir) yn ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sydd wedi ei yswirio wahardd deiliad contract rhag bod yn hawlydd budd-daliadau,

a bod y gofyniad yn y les yn fodd i atal y sawl sydd wedi ei yswirio rhag torri’r teler hwnnw.

(5)At ddibenion yr adran hon, mae telerau les yn cynnwys—

(a)telerau unrhyw gytundeb sy’n ymwneud â’r les, a

(b)unrhyw ddogfen neu gyfathrebiad oddi wrth y landlord sy’n rhoi neu’n gwrthod cydsyniad i isosod o dan y les i gategori neu ddisgrifiad o berson.

8GTelerau mewn morgeisi yn ymwneud â phlant neu statws o ran budd-daliadau

(1)Nid yw teler mewn morgais ar fangre sy’n ffurfio annedd neu sy’n cynnwys annedd yn rhwymo i’r graddau y byddai (oni bai am yr adran hon) yn ei gwneud yn ofynnol i’r morgeisiwr—

(a)gwahardd deiliad contract rhag bod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd, neu

(b)cyfyngu’r amgylchiadau lle caniateir i ddeiliad contract fod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd,

(ond mae’r morgais yn parhau, i’r graddau y bo hynny’n ymarferol, i gael effaith ym mhob cyswllt arall).

(2)Nid yw teler mewn morgais ar fangre sy’n ffurfio annedd neu sy’n cynnwys annedd yn rhwymo i’r graddau y byddai (oni bai am yr adran hon) yn ei gwneud yn ofynnol i’r morgeisiwr wahardd deiliad contract rhag bod yn hawlydd budd-daliadau (ond mae’r morgais yn parhau, i’r graddau y bo hynny’n ymarferol, i gael effaith ym mhob cyswllt arall).

8HTelerau mewn contractau yswiriant yn ymwneud â phlant neu statws o ran budd-daliadau

(1)Nid yw teler mewn contract yswiriant y mae’r adran hon yn gymwys iddo yn rhwymo i’r graddau y byddai (oni bai am yr adran hon) yn ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sydd wedi ei yswirio—

(a)gwahardd deiliad contract rhag bod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd sy’n destun contract meddiannaeth, neu

(b)cyfyngu’r amgylchiadau lle caniateir i ddeiliad contract fod â phlentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd sy’n destun contract meddiannaeth,

(ond mae’r contract yswiriant yn parhau, i’r graddau y bo hynny’n ymarferol, i gael effaith ym mhob cyswllt arall).

(2)Nid yw teler mewn contract yswiriant y mae’r adran hon yn gymwys iddo yn rhwymo i’r graddau y byddai (oni bai am yr adran hon) yn ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sydd wedi ei yswirio wahardd deiliad contract annedd sy’n destun contract meddiannaeth rhag bod yn hawlydd budd-daliadau (ond mae’r contract yswiriant yn parhau, i’r graddau y bo hynny’n ymarferol, i gael effaith ym mhob cyswllt arall).

(3)Mae’r adran hon yn gymwys i gontractau yswiriant a wnaed neu yr estynnwyd eu cyfnod ar neu ar ôl y diwrnod y daw’r adran hon i rym.

8IDim gwaharddiad ar roi ystyriaeth i incwm

Nid oes dim yn y Rhan hon yn gwahardd rhoi ystyriaeth i incwm person wrth ystyried a fyddai’r person hwnnw yn gallu fforddio talu rhent o dan gontract meddiannaeth.

8JDehongli Rhan 2A

(1)Yn y Rhan hon—

  • mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) yr un ystyr ag yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (gweler adran 7 o’r Ddeddf honno);

  • ystyr “darpar ddeiliad contract” (“prospective contract-holder”) yw person sy’n ceisio dod o hyd i annedd i’w rhentu o dan gontract meddiannaeth;

  • ystyr “darpar landlord” (“prospective landlord”) yw person sy’n bwriadu gosod annedd o dan gontract meddiannaeth;

  • ystyr “hawlydd budd-daliadau” (“benefits claimant”) yw person—

    (a)

    sydd â hawl i gael taliadau (gan gynnwys taliadau a wneir yn uniongyrchol i landlord) o dan Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 neu Ddeddf Diwygio Lles 2012 neu yn rhinwedd y deddfau hynny, neu a fyddai â hawl o’r fath pe bai’r person yn dod yn ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth,

    (b)

    sydd â hawl i gael taliadau (gan gynnwys taliadau a wneir yn uniongyrchol i landlord) o dan neu yn rhinwedd Deddf Ceiswyr Gwaith 1995, Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002, Deddf Credydau Treth 2002, Deddf Diwygio Lles 2007 neu Ddeddf Pensiynau 2014,

    (c)

    sy’n cael gostyngiad yn swm y dreth gyngor sy’n daladwy mewn perthynas â chartref presennol y person o dan gynllun a wneir gan awdurdod bilio o dan neu yn rhinwedd adran 13A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, neu

    (d)

    a fyddai â’r hawl i gael gostyngiad yn swm y dreth gyngor sy’n daladwy mewn perthynas â’r annedd o dan sylw o dan gynllun a wneir gan yr awdurdod bilio y mae’r annedd yn ei ardal o dan neu yn rhinwedd adran 13A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, pe bai’r person—

    (i)

    yn rhentu’r annedd o dan gontract meddiannaeth, a

    (ii)

    os yw gwneud cais yn rhagamod ar gyfer hawlio gostyngiad, yn gwneud cais i’r awdurdod bilio am ostyngiad o dan y cynllun;

  • ystyr “person perthnasol” (“relevant person”), mewn perthynas â chontract meddiannaeth, yw—

    (a)

    y darpar landlord;

    (b)

    person sy’n gweithredu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar ran y darpar landlord neu sy’n honni ei fod yn gweithredu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar ran y darpar landlord;

  • ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed.

(2)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at wneud rhywbeth ar sail ffeithiau penodol yn cynnwys cyfeiriad at wneud hynny ar sail cred yn y ffeithiau hynny.

(4)In section 10(4)

(a)after the opening words insert—

(za)mewn perthynas â throsedd o dan Ran 2A neu o dan reoliadau o dan adran 47 neu 48 o Ddeddf Hawliau Rhentwyr 2025—

(i)person sy’n landlord o dan gontract meddiannaeth neu sydd wedi bod yn landlord o dan gontract o’r fath;

(ii)person sy’n ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth neu sydd wedi bod yn ddeiliad contract o dan gontract o’r fath;

(iii)person sy’n berson perthnasol mewn perthynas â chontract meddiannaeth neu sydd wedi bod yn berson perthnasol mewn perthynas â chontract o’r fath;

(zb)mewn perthynas â throsedd o dan unrhyw ddarpariaeth arall o’r Ddeddf hon—;

(b)paragraphs (a) to (c) become paragraphs (i) to (iii) of paragraph (zb).

(5)After section 10(4) insert—

(4A)Yn is-adran (4)—

  • mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) yr un ystyr ag yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (gweler adran 7 o’r Ddeddf honno);

  • mae i “person perthnasol” (“relevant person”) yr ystyr a roddir yn adran 8J.

(6)In section 13(1) after “3” insert “neu Ran 2A o’r Ddeddf hon neu o dan reoliadau o dan adran 47 neu 48 o Ddeddf Hawliau Rhentwyr 2025”.

(7)In section 17

(a)after subsection (3) insert—

(3A)At ddibenion y Rhan hon fel y mae’n ymwneud â throseddau o dan Ran 2A neu o dan reoliadau o dan adran 47 neu 48 o Ddeddf Hawliau Rhentwyr 2025, mae awdurdod pwysau a mesurau lleol yn awdurdod gorfodi ychwanegol mewn perthynas â’r ardal y mae’n awdurdod pwysau a mesurau ar ei chyfer.;

(b)in subsection (4) the words from “ystyr” to the end become a definition;

(c)at the end of subsection (4) insert—

  • mae i “awdurdod pwysau a mesurau lleol” yr ystyr a roddir i “local weights and measures authority” gan adran 69(2) o Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985.

(8)In section 27(3) after “adran 7,” insert “adran 8C,”.

Commencement Information

I1S. 43 not in force at Royal Assent, see s. 145(1)(7)

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area.

Original (As Enacted or Made): The original version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources