xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 4

ATODLEN 2Yr wybodaeth sydd i’w darparu

RHAN 1Yr wybodaeth sydd i’w darparu mewn diweddariadau o dymor i dymor

1.  Sylwadau cryno am les y disgybl.

2.  Sylwadau cryno am gynnydd a dysgu allweddol y disgybl.

3.  Crynodeb byr o anghenion cynnydd allweddol y disgybl a’r camau nesaf i gefnogi cynnydd y disgybl hwnnw.

4.  Cyngor cryno ar sut y gall y rhieni gefnogi cynnydd eu plentyn.

RHAN 2Yr wybodaeth sydd i’w darparu mewn diweddariadau blynyddol

5.  Sylwadau cryno am y cynnydd mewn dysgu ar draws y cwricwlwm perthnasol.

6.  Sylwadau cryno am ganlyniadau’r asesiadau a gynhelir o dan Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013(1).

7.  Crynodeb byr o anghenion cynnydd y disgybl a’r camau nesaf i gefnogi cynnydd y disgybl hwnnw.

8.  Cyngor cryno ar sut y gall rhieni gefnogi cynnydd eu plentyn.

9.  Sylwadau cryno am les y disgybl.

10.  Crynodeb byr o’r cymwysterau a enillwyd.

11.  Crynodeb o gofnod presenoldeb y disgybl yn ystod y cyfnod y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef sy’n dangos nifer yr absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig (o fewn ystyr Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010(2)) a nifer y presenoldebau posibl.

12.  Manylion y trefniadau y caniateir i riant y disgybl, neu yn achos disgybl sy’n oedolyn, y disgybl, drafod yr wybodaeth a ddarperir ag athrawon y disgybl oddi tanynt.

RHAN 3Cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd

13.  Enw unrhyw bwnc y cofrestrwyd y disgybl ar ei gyfer mewn cysylltiad â chymhwyster perthnasol a gymeradwywyd a’r radd (os oes un) a gafwyd.

14.  Manylion unrhyw gymhwyster perthnasol a gymeradwywyd neu unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o’r fath a gafodd y disgybl yn ystod y cyfnod y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef na chyfeirir ato neu ati yn rhywle arall yn yr Atodlen hon.

15.  Manylion cryno am gyflawniadau’r disgybl mewn unrhyw faes dysgu, gan gynnwys Tystysgrif Graidd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, nas crybwyllir yn rhywle arall yn yr Atodlen hon sy’n rhan o’r cwricwlwm ysgol ac am sgiliau a galluoedd y disgybl ac ynghylch cynnydd cyffredinol y disgybl yn yr ysgol yn ystod y cyfnod y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef.

RHAN 4Adroddiad i ddisgybl sy’n ymadael â’r ysgol

16.  Enw’r disgybl.

17.  Ysgol y disgybl.

18.  Manylion unrhyw gymhwyster perthnasol a gymeradwywyd ac unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o’r fath a ddyfarnwyd i’r disgybl.

19.  Manylion cryno am gynnydd y disgybl a’i gyflawniadau mewn pynciau (ac eithrio’r rheini y mae’r disgybl wedi cyflawni unrhyw gymhwyster perthnasol a gymeradwywyd neu unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o’r fath ynddynt).

20.  Manylion cryno am gynnydd y disgybl mewn unrhyw weithgareddau sy’n rhan o’r cwricwlwm ysgol, yn y flwyddyn ysgol yr ymadawodd y disgybl â’r ysgol ynddi neu ar ei diwedd.