- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau nad ydynt yn rhai testunol i Reoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”) er mwyn sicrhau bod Fforymau Mynediad Lleol yn gallu parhau i gyfarfod a gwneud penderfyniadau yn ystod y cyfnod o amhariad a achosir gan bandemig y coronafeirws. Ac eithrio rheoliadau 1 a 6, mae’r Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar 30 Ebrill 2021. Mae rheoliadau 1 a 6 yn peidio â chael effaith ddwy flynedd ar ôl iddynt ddod i rym.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn galluogi Fforymau Mynediad Lleol i gynnal cyfarfodydd o bell yn hytrach na gorfod eu cynnal mewn un lleoliad ffisegol.
Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch penodiadau dros dro i Fforymau Mynediad Lleol, drwy roi’r pŵer i’r awdurdodau penodi ddewis peidio ag arfer y gofynion yn rheoliadau 7(a) a (b) mewn perthynas â phenodiadau a wneir yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym ac yn dod i ben ar ddiwedd 30 Ebrill 2021. Mae hefyd yn darparu na chaniateir gwneud y penodiadau hynny ond am gyfnod o hyd at 9 mis o ddyddiad y penodiad. Diben y ddarpariaeth hon yw caniatáu i unrhyw aelodau o Fforymau Mynediad Lleol y mae cyfnod eu penodiad wedi dod i ben yn ddiweddar gael eu hailbenodi yn gyflym ac mewn modd syml os nad yw’n bosibl cynnal cylch recriwtio llawn ar hyn o bryd.
Mae rheoliad 4 yn caniatáu i bapurau ar gyfer cyfarfodydd gael eu hanfon ar ffurf electronig.
Mae rheoliad 5 yn caniatáu ethol y Cadeirydd neu’r Dirprwy Gadeirydd drwy ddull ac eithrio drwy bleidlais gyfrinachol, os nad yw hynny’n opsiwn iddynt, ac yn caniatáu i’r Fforymau Mynediad Lleol benderfynu ar eu gweithdrefn eu hunain.
Mae rheoliad 6 yn caniatáu i’r person sy’n llywyddu wahardd y cyhoedd o eitem benodol o fusnes os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.
Mae rheoliad 7 yn darparu, at ddiben cyfrifo’r cyfnod o 12 mis pan fydd aelod wedi methu â bod yn bresennol mewn cyfarfodydd cyn y caniateir terfynu ei aelodaeth, bod y cyfnod rhwng y diwrnod y mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym a sy’n dod i ben â’r diwrnod cyntaf ar ôl Diwrnod Un pan gynhelir cyfarfod o’r fforwm, neu unrhyw bwyllgor o’r fforwm i’w ddiystyru.
Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiadau blynyddol a gymeradwyir ar ôl 31 Mawrth 2020 a chyn 30 Ebrill 2021 gael eu cyhoeddi ar wefan yr awdurdod penodi.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: