xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn sefydlu cynllun ar gyfer talu pensiynau a buddion eraill i ddiffoddwyr tân yng Nghymru o 1 Ebrill 2015 ymlaen. Mae’r cynllun a sefydlir felly yn gynllun enillion ailbrisiedig cyfartaledd gyrfa.

Mae Rhan 2 yn cynnwys darpariaethau sy’n penodi awdurdodau tân ac achub yn “rheolwyr cynllun” ac yn caniatáu dirprwyo swyddogaethau Gweinidogion Cymru a’r rheolwyr cynllun o dan y Rheoliadau hyn. Mae Rhan 2 hefyd yn cynnwys darpariaethau ynglŷn â sefydlu, aelodaeth a gweithredu Byrddau Pensiynau Lleol a Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru.

Mae Rhan 3 yn darparu ar gyfer aelodaeth o gynllun. Mae’n pennu’r cysyniadau allweddol o gyflogaeth cynllun ac enillion pensiynadwy. Mae’n cynnwys darpariaethau cymhwystra a chofrestru awtomatig.

Mae Rhan 4 yn darparu ar gyfer sefydlu cyfrifon pensiwn aelod mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn. Mae’n darparu hefyd ar gyfer sefydlu cyfrif aelod â chredyd pensiwn.

Mae Rhan 5 yn darparu ar gyfer hawlogaeth aelod i gael taliad o fuddion ymddeol, gan gynnwys buddion rhan-ymddeoliad a buddion afiechyd. Mae’n darparu hefyd ar gyfer aseinio buddion. Mae’n pennu’r cysyniad allweddol o wasanaeth cymwys.

Mae Rhan 6 yn darparu ar gyfer buddion marwolaeth taladwy i oedolion sy’n goroesi ac i blant cymwys ac ar gyfer talu buddion cyfandaliad.

Mae Rhan 7 yn darparu ar gyfer buddion i aelodau â chredyd pensiwn.

Mae Rhan 8 yn darparu ar gyfer talu cyfraniadau gan aelodau a chyflogwyr.

Mae Rhan 9 yn darparu ar gyfer gwneud taliadau i mewn ac allan o Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân.

Mae Rhan 10 yn darparu ar gyfer gwneud a chael taliadau trosglwyddo.

Mae Rhan 11 yn darparu ar gyfer prisiadau actiwaraidd ac yn darparu ar gyfer cap ar gostau cyflogwyr sy’n ganran o enillion pensiynadwy aelodau o’r cynllun.

Mae Rhan 12 yn darparu ar gyfer penderfynu cwestiynau ac apelau.

Mae Rhan 13 yn cynnwys darpariaethau atodol ar dalu pensiynau, fforffedu a gwrthgyfrif, a thalu a didynnu treth.

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwneud taliadau am bensiwn ychwanegol.

Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth drosiannol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan y Gangen Tân a Lluoedd Arfog, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu 0300 062 8221.