xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch gofynion ymweld ar gyfer plant penodedig sydd, ar ôl eu collfarnu o drosedd gan lys, dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu y gwneir yn ofynnol eu bod yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

Mae rheoliad 3 yn pennu’r amgylchiadau, at ddibenion adran 97(1)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”), sy’n peri bod plentyn yn peidio â derbyn gofal gan awdurdod lleol (digwyddiad a fydd yn dod â phlant o’r fath wedyn o fewn cwmpas y ddyletswydd a nodir yn adran 97(3) o Ddeddf 2014 a’r Rheoliadau hyn).

Mae adran 97(3) o Ddeddf 2014 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol cyfrifol i ymweld â phlentyn o’r fath, cynnal cyswllt â’r plentyn, a darparu cyngor a chymorth arall iddo.

Yr amgylchiadau a bennir gan reoliad 3 yw bod plentyn, a fu’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, ond a beidiodd â derbyn gofal oherwydd naill ai bod y plentyn, ar ôl ei gollfarnu o drosedd gan lys, dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu y gwnaed yn ofynnol fod y plentyn yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

Bydd plant sydd, ar ôl eu collfarnu o drosedd gan lys, yn colli eu statws fel plant sy’n derbyn gofal o ganlyniad i’w rhoi dan gadwad neu ei gwneud yn ofynnol eu bod yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, yn dod o fewn disgrifiad a nodir ym mharagraff (a) neu (b) isod—

(a)plentyn a oedd, yn union cyn ei roi dan gadwad, yn derbyn gofal yn rhinwedd darparu llety iddo gan yr awdurdod lleol o dan adran 76 o Ddeddf 2014; neu

(b)plentyn sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac a drinnid fel plentyn yn derbyn gofal yn unol ag adran 104 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 (“Deddf 2012”) (yn rhinwedd ei roi ar remánd i lety awdurdod lleol neu lety cadw ieuenctid yn unol ag adran 92 o Ddeddf 2012).

Mae rheoliad 4 yn pennu, at ddibenion adran 97(1)(c) o Ddeddf 2014, dau gategori o blant (a bennir yn unol ag adran 97(2)), y bydd gan awdurdod lleol ddyletswyddau mewn cysylltiad â hwy o dan adran 97(3) o Ddeddf 2014 ac o dan y Rheoliadau hyn. Mae cymhwyso rheoliad 4 yn ddarostyngedig i eithriadau, a nodir yn rheoliad 2(2).

Bydd y plant a eithrir o’r categorïau a bennir yn rheoliad 4 oherwydd eu bod yn dod o fewn disgrifiad a nodir yn is-baragraffau (a) i (e) o reoliad 2(2) yn cael ymweliadau a chymorth gan yr awdurdod lleol (neu awdurdod lleol yn Lloegr) sy’n gyfrifol am ddiwallu eu hanghenion yn unol â gofynion statudol eraill.

Yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth a wneir gan reoliad 2(2), bydd y categorïau o blant a bennir yn rheoliad 4 yn dod o fewn disgrifiad a nodir ym mharagraff (a) neu (b) isod—

(a)y categori cyntaf yw plentyn sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac, ar ôl ei gollfarnu o drosedd gan lys, a roddwyd dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu y gwneir yn ofynnol ei fod yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd,

(b)yr ail gategori yw plentyn sydd, ar ôl ei gollfarnu o drosedd gan lys, dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu y gwneir yn ofynnol ei fod yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd a leolir yng Nghymru.

Mae rheoliad 5 yn pennu, at ddibenion adran 97(2) o Ddeddf 2014, pa awdurdod lleol y mae’n rhaid iddo gyflawni’r dyletswyddau a osodir o dan adran 97 ac o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn categori a bennir yn rheoliad 4.

Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag amlder yr ymweliadau; rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol drefnu i’w gynrychiolydd ymweld â’r plentyn o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl rhoi’r plentyn dan gadwad, neu ei gwneud yn ofynnol gyntaf ei fod yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, ac wedyn pa bryd bynnag y gofynnir yn rhesymol iddo wneud hynny gan bersonau penodedig, er enghraifft, y plentyn, rhieni’r plentyn, neu’n unol ag argymhellion a wneir gan y cynrychiolydd.

Mae rheoliad 7 yn darparu bod rhaid i’r cynrychiolydd, yn ystod pob ymweliad, siarad yn breifat gyda’r plentyn, oni fydd yn amhriodol gwneud hynny neu fod y plentyn yn gwrthod gwneud hynny.

Mae rheoliad 8 yn gosod dyletswydd ar y cynrychiolydd i ddarparu adroddiad am bob ymweliad, ac yn pennu’r hyn y mae’n rhaid ei gynnwys yn yr adroddiad hwnnw. Mae’n darparu hefyd fod rhaid rhoi copi o’r adroddiad i’r plentyn, oni fyddai’n amhriodol gwneud hynny, ac i bersonau penodol eraill.

Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â dyletswydd yr awdurdod lleol cyfrifol o dan adran 97(3)(b) o Ddeddf 2014 i drefnu bod cyngor a chymorth ar gael i’r plentyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.