xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu bod y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (“CIPFA”) a Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (“CIMA”) yn gyrff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy at ddibenion adran 19(9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”).
O ganlyniad i hyn, bydd CIPFA a CIMA ill dau yn dod o fewn y diffiniad o “corff cyfrifyddu” yn adran 19(9) o’r Ddeddf. Mae adran 19(4) o’r Ddeddf yn darparu y caiff Swyddfa Archwilio Cymru wneud trefniadau gydag unrhyw gorff o’r fath i gydweithredu â’i gilydd a rhoi cymorth i’w gilydd neu wneud trefniadau i’r corff hwnnw ac Archwilydd Cyffredinol Cymru gydweithredu â’i gilydd, a rhoi cymorth i’w gilydd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.