xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Traffig Ffyrdd, Cymru
Gwnaed
25 Mehefin 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Mehefin 2013
Yn dod i rym
23 Gorffennaf 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 17(2) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(1), ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw gyrff cynrychioliadol y tybiwyd eu bod yn briodol yn unol ag adran 134(2) o’r Ddeddf honno(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1. Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Gorffennaf 2013 a’u henw yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 49, Pont Abraham, Sir Gaerfyrddin) (Terfyn Cyflymder 50 MYA) 2013.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “traffordd yr M4” (“the M4 motorway”) yw Traffordd yr M4 o Lundain i Dde Cymru.
3. Ni chaiff neb yrru cerbyd yn gyflymach na 50 milltir yr awr ar y darn hwnnw o gerbytffordd tua’r gorllewin traffordd yr M4 sy’n ymestyn o bwynt sy’n 600 o fetrau i’r de o’i chyffordd â’r gylchfan ym Mhont Abraham (Cyffordd 49) yn Sir Gaerfyrddin hyd at ei chyffordd â’r gylchfan honno.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
25 Mehefin 2013
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Gweinidogion Cymru sydd â’r pŵer i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â defnyddio ffyrdd arbennig o dan adran 17(2) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (ac eithrio mewn cysylltiad â ffyrdd arbennig yn gyffredinol) i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer uchod, yn gwneud y Rheoliadau hyn sy’n gosod terfyn cyflymder uchaf o 50 milltir yr awr (yn lle’r terfyn cyflymder cyffredinol o 70 milltir yr awr a osodir ar draffyrdd gan Reoliadau Traffig Traffyrdd (Terfyn Cyflymder) 1974 (O.S. 1974/502)) ar y darn o draffordd yr M4 a bennir yn y Rheoliadau.
Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn gan mai am resymau diogelwch ar y briffordd y’i gwnaed ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar gostau busnes.
1984 p.27. Yn rhinwedd O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae’r pwerau hyn yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.
Diwygiwyd adran 134(2) gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), Atodlen 8, paragraff 77.