xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (mccc 3) ("y Mesur").

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn dwyn i rym erthyglau 4(3) a 5(4) ar 28 Tachwedd 2011. Mae gweddill darpariaethau'r Mesur, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, yn cael eu dwyn i rym ar 1 Ebrill 2012.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau trosiannol am baratoi a chyflwyno cyfrifon Bwrdd Ardollau Cymru am y flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2011 i 31 Mawrth 2012 ("blwyddyn ariannol 2011/2012") i Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru yw paratoi'r cyfrifon hynny ac unrhyw faterion sy'n codi ohonynt.

Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaeth arbed sy'n cadw rhwymedigaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru i archwilio, ardystio, ac adrodd ar gyfrifon Bwrdd Ardollau Cymru am y flwyddyn ariannol 2011/2012 ynghyd รข'u gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.