- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
27.—(1) Cyfraniad myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 2, os oes unrhyw swm o gwbl.
(2) At ddibenion arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr roi o dro i dro yr wybodaeth y mae arnynt ei hangen er mwyn asesu cyfraniad y myfyriwr.
28. Rhaid i'r cyfraniad a gyfrifir yn unol â rheoliad 33 gael ei gymhwyso yn unol â rheoliad 27.
29.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso cyfraniad y myfyriwr cymwys—
(a)yn gyntaf, i ostwng swm y grant at gostau byw a gyfrifir yn unol â rheoliad 16(3);
(b)yn ail—
(i)yn achos myfyriwr sy'n gymwys i gael y grant ar gyfer dibynyddion, i ostwng yn y drefn ganlynol—
(aa)swm unrhyw grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir yn unol â rheoliad 24;
(bb)swm unrhyw lwfans dysgu rhieni a gyfrifir yn unol â rheoliad 24; ac
(cc)swm unrhyw grant ar gyfer teithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 16(4);
(ii)mewn unrhyw achos arall, i ostwng swm y grant ar gyfer teithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 16(4);
(c)yn drydydd, i ostwng swm y grant ar gyfer teithio colegol a gyfrifir yn unol â rheoliad 16(5).
(ch)yn bedwerydd, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio a gyfrifir yn unol â rheoliad 16(6).
(2) Os yw'r cyfraniad sydd ar gael i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio yn unol â pharagraff (1)(ch) yn fwy na swm y grant hwnnw a gyfrifir o dan reoliad 16(6), swm y grant hwnnw sy'n daladwy i'r myfyriwr yw dim.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: