- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
5.—(1) Os oes unrhyw gynigion i sefydlu ysgol a gynhelir wedi'u cyhoeddi o dan unrhyw ddeddfiad(1), caiff yr awdurdod addysg lleol wneud trefniadau o dan adran 34 o Ddeddf 2002 gan rag-weld y caiff y cynigion eu cymeradwyo(2) neu gan rag-weld y bydd yr awdurdod yn penderfynu y dylai'r cynigion gael eu rhoi ar waith (3).
(2) Os yw'r cynigion yn gynigion i sefydlu ysgol wirfoddol a reolir, rhaid i'r awdurdod addysg lleol ymgynghori â'r hyrwyddwyr—
(a)ynghylch a ddylai'r pŵer sydd wedi'i roi i'r awdurdod addysg lleol ym mharagraff (1) uchod gael ei arfer; a
(b)os yw'r awdurdod addysg lleol yn bwriadu arfer y pŵer, ynghylch y dyddiad y dylai'r trefniadau gael eu gwneud arno.
(3) Os yw'r cynigion yn gynigion i sefydlu ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol sefydledig, rhaid i'r awdurdod addysg lleol a'r hyrwyddwyr ystyried—
(a)a ddylai'r pŵer sydd wedi'i roi i'r awdurdod addysg lleol ym mharagraff (1) uchod gael ei arfer, a
(b)os ydyn nhw'n cytuno y dylai gael ei arfer, ar ba ddyddiad y dylai'r trefniadau gael eu gwneud.
(4) Mewn achos o fewn paragraff (3), os yw'r awdurdod addysg lleol a'r hyrwyddwyr yn methu â chytuno ar y cwestiwn y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) neu'r cwestiwn y cyfeirir ato yn is-baragraff (b), caiff y naill neu'r llall ohonynt gyfeirio'r mater at Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac ar gyfeiriad o dan y paragraff hwn rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi unrhyw gyfarwyddyd y mae'n credu ei fod yn addas.
Gall cynigion gael eu cyhoeddi o dan adran 28 neu 31 o Ddeddf 1998, neu baragraff 5 o Atodlen 7 iddi neu adran 113A o Ddeddf 2000.
O dan baragraff 8 o Atodlen 6 neu baragraff 13 o Atodlen 7 i Ddeddf 1998 neu adran 113A(5)(a) o Ddeddf 2000.
O dan baragraff 9 o Atodlen 6 i Ddeddf 1998.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: