RHAGARWEINIAD
1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 a gafodd ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 10 Mawrth 2010 a’i gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ar 11 Mai 2010. Cawsant eu paratoi gan Adran Dyfodol Cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cynorthwyo darllenydd y Mesur. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Mesur ond nid ydynt yn rhan ohono.