132.Mae adran 66 yn ei gwneud yn ofynnol i bob ardal awdurdod lleol i benodi swyddog dynodedig (swyddog safonau gwaith cymdeithasol teuluol) a fydd â chyfrifoldeb penodol am godi safonau mewn arferion gwaith cymdeithasol a hyrwyddo'r defnydd o ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn perthynas â plant a phersonau sy'n gofalu amdanynt. Mae cylch gwaith y swyddog safonau gwaith cymdeithasol teuluol yn ymestyn i’r holl arferion gwaith cymdeithasol sy’n berthnasol i blant.
133.Mae adran 67 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol, wrth asesu anghenion oedolion am wasanaethau gofal cymunedol, i ystyried hefyd anghenion unrhyw blant y mae’r oedolion hynny yn gyfrifol am ofalu amdanynt, ac ystyried a yw effaith anghenion yr oedolion ar eu gallu i rianta yn golygu bod plentyn, yn ei dro , yn “blentyn mewn angen” yn nhermau adran 17 o Ddeddf Plant 1989.
134.Ar ôl ystyried a yw’n ymddangos ai peidio bod plentyn yn blentyn mewn angen, rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a ddylid gwneud y plentyn yn destun asesiad o dan adran 17 o Ddeddf Plant 1989 ac wedyn a ddylid darparu unrhyw wasanaethau ai peidio.
135.Mae is-adran 4 wedyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol gymryd cyfrif o’r ystyriaeth sydd wedi ei rhoi i anghenion y plentyn wrth benderfynu beth yw anghenion y rhiant o dan adran 47(1)(b) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990.
136.Mae’r adran hon yn ategu’r ddarpariaeth yn adran 67 drwy osod dyletswydd ar gyrff GIG, pan ddarperir gwasanaethau iechyd penodol, i wneud trefniadau addas ar gyfer ystyried a yw anghenion iechyd rhiant yn peri bod unrhyw blant y mae’r oedolyn yn gofalu amdanynt yn gymwys i gael gwasanaethau gan awdurdod lleol o dan adran 17 o Ddeddf Plant 1989 neu ddarpariaeth arall. Rhaid i’r corff iechyd hefyd wneud trefniadau addas ar gyfer atgyfeirio achosion priodol at yr awdurdod lleol perthnasol, ond mae’r ddyletswydd hon yn ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd i’r plentyn neu i’r gofalwr ynglŷn â datgelu gwybodaeth, boed ddyletswydd cyfrinachedd o dan gyfraith gwlad neu ddyletswydd i’r sawl sy’n destun yr wybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.
137.Mae adran 69, yn darparu ar gyfer newid canlyniadol yn Atodlen 1 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970, drwy ehangu ystyr “swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol” (“social services functions”) i gynnwys TICDau a Byrddau ICD, swyddogion safonau gwaith cymdeithasol teuluol (a. 66) ac ystyried anghenion plant wrth asesu rhieni (a. 67).
138.Mae adran 70 yn gwneud darpariaethau ynglŷn ag unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru i gyrff y mae'n rhaid iddynt roi sylw i ganllawiau o'r fath.
139.Mae adran 71 yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Mesur.
140.Nodir mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol yn Atodlen 1.
141.Nodir y diddymiadau yn Atodlen 2.
142.Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol. Mae is-adrannau (2) i (5) yn pennu'r trefniadau mewn perthynas â gorchmynion a rheoliadau. Ceir arfer y pŵer i wneud rheoliadau gan ddarparu’n wahanol ar gyfer gwahanol achosion neu ardaloedd neu ddibenion, a chan wneud darpariaeth gyffredinol neu ddarpariaeth ar gyfer achos penodol neu ddosbarth penodol o achosion.
143.Mae adran 75 yn pennu’r trefniadau ar gyfer cychwyn y Mesur o ran yr adrannau 1, 2, 3, 74, 75 a 76. Daw gweddill y darpariaethau sydd yn y mesur i gyd i rym pan gychwynnir hwy drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru.
144.Enw byr y Mesur yw ‘Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010’.