Adran 68 Anghenion plant sy’n codi o anghenion gofal iechyd rhieni
136.Mae’r adran hon yn ategu’r ddarpariaeth yn adran 67 drwy osod dyletswydd ar gyrff GIG, pan ddarperir gwasanaethau iechyd penodol, i wneud trefniadau addas ar gyfer ystyried a yw anghenion iechyd rhiant yn peri bod unrhyw blant y mae’r oedolyn yn gofalu amdanynt yn gymwys i gael gwasanaethau gan awdurdod lleol o dan adran 17 o Ddeddf Plant 1989 neu ddarpariaeth arall. Rhaid i’r corff iechyd hefyd wneud trefniadau addas ar gyfer atgyfeirio achosion priodol at yr awdurdod lleol perthnasol, ond mae’r ddyletswydd hon yn ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd i’r plentyn neu i’r gofalwr ynglŷn â datgelu gwybodaeth, boed ddyletswydd cyfrinachedd o dan gyfraith gwlad neu ddyletswydd i’r sawl sy’n destun yr wybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.