Adran 60 Cyfansoddiad timau integredig cymorth i deuluoedd
125.Mae adran 60 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i sicrhau bod TICDau yn cynnwys y gweithwyr proffesiynol perthnasol a ragnodir mewn rheoliadau. Bydd modd felly penderfynu drwy reoliadau gyfansoddiad proffesiynol y timau. Mae is-adran (2) yn rhoi pŵer i awdurdod lleol gynnwys personau eraill (yn ychwanegol at y rhai a ragnodir) yn y TICD, gyda chydsyniad y Bwrdd iechyd Lleol.