CYFLWYNIAD
1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Mesur Addysg (Cymru) 2009 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Tachwedd 2009 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 9 Rhagfyr 2009. Fe’u paratowyd gan Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Dylai’r Nodiadau Esboniadol gael eu darllen ar y cyd â’r Mesur ond nid ydynt yn rhan ohono. Nid ydynt, ac ni fwriedir iddynt fod, yn ddisgrifiad cynhwysfawr o’r Mesur. Os yw’n ymddangos, felly, nad oes angen rhoi esboniad neu wneud sylw ar adran neu ran o adran yna ni roddir esboniad ac ni wneir sylw arni.
2.Mae’r Mesur yn rhoi i blant a phobl ifanc yr hawl i wneud apêl i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (“y Tribiwnlys”) mewn cysylltiad ag anghenion addysgol arbennig ac yn rhoi iddynt hawl i wneud hawliad i’r Tribiwnlys mewn cysylltiad â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion.
3.Mae’r Mesur yn gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth gyfredol sy’n ymwneud â’r cwricwlwm ysgol. Newidiadau ydynt sy’n deillio o roi ar waith gyfnod sylfaen (plant 3 i 7 oed) Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru. Caiff cyfnod allweddol 1 ei ddileu o Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru ac ailenwir “foundation stage” yn “foundation phase”.
4.Mae’r Mesur hefyd yn gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i hawl disgyblion o dan y cwricwlwm lleol (y grŵp oedran 16-18).