Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024

Adran 5 - Pwerau i roi ac amrywio rhyddhadau, a’u tynnuʼn ôl

12.Maeʼr adran hon yn diwygio Atodlenni 4ZA, 4ZB a 5A i Ddeddf 1988. Maeʼr Atodlenni hyn yn darparu ar gyfer cyfrifoʼr swm o ardrethu annomestig a godir am ddiwrnod y codir swm ynglŷn ag ef, mewn cysylltiad â hereditament, ac yn darparu ar gyfer cymhwyso rhyddhadau rhannol a rhyddhadau llawn rhag ardrethu annomestig. Mae Atodlen 4ZA yn gwneud y ddarpariaeth hon mewn perthynas â hereditamentau a feddiennir ar restr ardrethu leol, mae Atodlen 4ZB yn gwneud y ddarpariaeth hon mewn perthynas â hereditamentau heb eu meddiannu ar restr ardrethu leol, ac mae Atodlen 5A yn gwneud y ddarpariaeth hon mewn perthynas â hereditamentau ar restr ardrethu ganolog.

13.Mae is-adran (2) yn mewnosod Rhan 3A yn Atodlen 4ZA i Ddeddf 1988, mae is-adran (3) yn mewnosod Rhannau 2A a 2B yn Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988, ac mae is-adran (4) yn mewnosod Rhan 2A yn Atodlen 5A i Ddeddf 1988. Mae pob un oʼr Rhannau newydd hyn yn cynnwys pwerau cyfatebol i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau syʼn rhoi ac amrywio rhyddhadau, neuʼn eu tynnuʼn ôl, mewn cysylltiad âʼr hereditamentau y mae pob Atodlen yn gymwys iddynt. Ni chaniateir gwneud rheoliadau o’r fath oni bai bod drafft wedi cael ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi (gweithdrefn gadarnhaol ddrafft.)

14.Ym mhob achos, caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer i ragnodi sawl rhyddhad rhannol (gweler paragraffau newydd 8A, 2A a 4A o Atodlenni 4ZA, 4ZB a 5A i Ddeddf 1988, yn y drefn honno). Caiff pob rhyddhad rhannol fod yn gymwys pan fodlonir yr amodau a ragnodir yn y rheoliadau a rhaid eu gosod ar lefel a ragnodir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau gan ddefnyddioʼr fformiwla “AxM/C – F”, lle y mae “F” yn dynodi swm y rhyddhad.

15.O dan y pwerau newydd hyn, caiff Gweinidogion Cymru hefyd wneud darpariaeth o ran cyfrifoʼr swm a godir mewn achosion pan fo mwy nag un rhyddhad a ragnodir yn y rheoliadau yn gymwys mewn perthynas â hereditament. Caiff darpariaeth oʼr fath ei gwneud yn ofynnol i gyfrifoʼr swm a godir gan ystyried un neu ragor oʼr rhyddhadau cymwys.

16.Yn yr un modd, caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer i ragnodi sawl rhyddhad llawn a chaiff rhyddhadau oʼr fath fod yn gymwys pan fodlonir yr amodau a ragnodir yn y rheoliadau (gweler paragraffau newydd 8B, 2B a 4B o Atodlenni 4ZA, 4ZB a 5A i Ddeddf 1988, yn y drefn honno).

17.Mae Atodlenni 4ZA a 5A i Ddeddf 1988 yn gwneud darpariaeth ynghylch achosion pan fo mwy nag un oʼr rhyddhadau a nodir ym mhob un oʼr Atodlenni hynny yn gymwys mewn cysylltiad â hereditament. Maeʼr adran hon yn diwygioʼr darpariaethau hyn er mwyn cynnwys rhyddhadau llawn a rhannol a roddir o dan y pwerau newydd i wneud rheoliadau ac yn mewnosod Rhan newydd 2B syʼn gwneud darpariaeth gyfatebol yn Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988. Ym mhob achos, maeʼr adran hefyd yn mewnosod pŵer i Weinidogion Cymru i ddiwygioʼr ddarpariaeth bresennol hon neu wneud darpariaeth bellach drwy reoliadau.

18.Nid yw darpariaethau Atodlenni 4ZA a 5A i Ddeddf 1988 sy’n egluro pa baragraff i’w ddefnyddio i gyfrifo‘r swm a godir mewn achosion lle mae mwy nag un rhyddhad yn gymwys yn cyfeirio at baragraffau 3 o’r Atodlenni hynny yn eu tro, sy’n ymwneud â rhyddhad ardrethi gwelliannau. Mae hyn oherwydd y gall y rhyddhad hwnnw fod yn gymwys yn ychwanegol at unrhyw ryddhad arall a’i fod yn gweithredu mewn ffordd neilltuol, fel addasiad i werth ardrethol yr hereditament cyn cymhwyso’r lluosogydd ac unrhyw ryddhad arall. Caiff paragraffau 3 o Atodlenni 4ZA a 5A, felly, fod yn gymwys yn ychwanegol at unrhyw baragraff arall yn yr Atodlenni hynny, ac nid ydynt yn anghymhwyso, nac yn cael eu hanghymhwyso gan, unrhyw baragraff arall.

19.Caniateir hefyd i unrhyw ryddhadau a roddir drwyʼr rheoliadau gael eu hamrywio neu eu tynnuʼn ôl drwy reoliadau diwygio. Yn ychwanegol, maeʼr adran hon yn mewnosod pŵer newydd ym mhob un o Atodlenni 4ZA, 4ZB a 5A i Ddeddf 1988 i Weinidogion Cymru i amrywio unrhyw un oʼr rhyddhadau a nodir yn yr Atodlenni hynny eu hunain, neu iʼw tynnuʼn ôl (gweler paragraffau newydd 8C, 2C a 4C o Atodlenni 4ZA, 4ZB a 5A i Ddeddf 1988, yn y drefn honno).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources