Adran 151 – Pwerau awdurdodau bilio i’w gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth sy’n ymwneud â hereditamentau
671.Mae’r adran hon yn diwygio Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“
672.Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, wybodaeth y mae’r cyngor o’r farn y bydd yn ei helpu i bennu swm yr ardreth sy’n ddyledus mewn perthynas â’r eiddo.
673.Ni chaiff y cyngor ond rhoi hysbysiad o dan y ddarpariaeth hon i bersonau a chanddynt gysylltiad penodol â’r eiddo, fel y nodir yn y paragraff 5(1D) newydd o Atodlen 9 i Ddeddf 1988.
674.Mae’n drosedd, i’w chosbi drwy ddirwy, darparu gwybodaeth ffug wrth ymateb i hysbysiad. Mae person sy’n methu â chydymffurfio â hysbysiad yn agored i ddirwy.
