Rhan 4 – Gweithrediaethau, Aelodau, Swyddogion a Phwyllgorau Awdurdodau Lleol
13.Mae’r darpariaethau yn Rhan 4 o’r Ddeddf (gan gynnwys Atodlenni 5 i 7) yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor benodi prif weithredwr, ac yn gwneud darpariaeth ynghylch ei rôl. Maent yn galluogi aelodau o brif gynghorau i gael eu penodi’n gynorthwywyr i’r weithrediaeth, yn hwyluso rhannu swydd gan aelodau’r weithrediaeth ac yn darparu ar gyfer gwneud rheoliadau er mwyn hwyluso rhannu swyddi penodol o fewn prif gynghorau.
14.Mae Rhan 4 hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch hawlogaeth aelodau o brif gynghorau i absenoldeb teuluol; yn rhoi dyletswydd ar arweinyddion y grwpiau gwleidyddol i gymryd camau rhesymol i hybu a chynnal safonau uchel o ran ymddygiad aelodau’r grŵp; ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi ac ystyried adroddiadau blynyddol gan bwyllgorau safonau.
15.Mae Atodlen 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch ymchwiliadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i fethiannau honedig i gydymffurfio â chod ymddygiad llywodraeth leol ar gyfer aelodau.
16.Gwneir darpariaeth yn Rhan 4 hefyd ynghylch pwyllgorau trosolwg a chraffu a hyfforddi aelodau a staff cynghorau cymuned.
