Crynodeb O’R Ddeddf
16.Diben y Ddeddf yw sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu pynciau sydd wedi eu datganoli i Gymru yn gweithio’n effeithiol ar ôl i DCE 1972 gael ei diddymu gan y Bil i Ymadael â’r UE, gan dybio bod y Bil yn cael ei basio a bod y DU yn ymadael â’r UE.
17.Mae’r Ddeddf yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ailddatgan a darnodi deddfwriaeth sy’n deillio o’r UE ar bynciau sydd wedi eu datganoli i Gymru, gydag unrhyw addasiadau sy’n angenrheidiol er mwyn gwneud i’r ddeddfwriaeth weithio ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Yn y Ddeddf, disgrifir y corff hwn o gyfraith sydd i gael ei nodi mewn rheoliadau fel ‘cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE’. Yn gyffredinol, bydd y Ddeddf yn gweithredu fel y bydd yr un gyfraith mewn pynciau sydd wedi eu datganoli i Gymru yn gymwys ar ôl i’r DU ymadael â’r UE ag o’r blaen, yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol i’r gyfraith i ddelio â’r ffaith na fydd y DU yn rhan o’r trefniadau sefydliadol a swyddogaethol a ddarperir o dan gyfraith yr UE mwyach.
18.Mae’r pwerau i ailddatgan a darnodi cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE yn cynnwys pŵer i wneud unrhyw ddiwygiadau i’r corff hwnnw o gyfraith o ganlyniad i ymadawiad y DU â’r UE.
19.Bwriedir i’r Ddeddf weithredu ochr yn ochr â’r Bil i Ymadael â’r UE(4). Mae’r Bil i Ymadael â’r UE—
yn diddymu DCE 1972 o’r “diwrnod ymadael”;
yn troi’r corff o gyfraith yr UE sy’n uniongyrchol gymwys yn y DU (e.e. rheoliadau gan yr UE sy’n uniongyrchol gymwys yn y DU drwy weithrediad DCE 1972) yng nghyfraith ddomestig awdurdodaethau’r DU (“cyfraith y DU”);
yn diogelu’r holl gyfreithiau sydd wedi eu gwneud yn y DU i weithredu rhwymedigaethau gan yr UE (e.e. rheoliadau a wneir o dan adran 2(2) o DCE 1972 sy’n gweithredu cyfarwyddebau gan yr UE);
yn corffori unrhyw hawliau eraill sydd ar gael mewn cyfraith ddomestig yn rhinwedd DCE 1972, gan gynnwys yr hawliau a geir yng Nghytuniadau’r UE, y gellir dibynnu arnynt ar hyn o bryd yn uniongyrchol yng nghyfraith y DU heb yr angen am fesurau gweithredu penodol; ac
yn darparu bod i gyfraith achosion Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd cyn i’r DU ymadael â’r UE yr un statws rhwymol, neu’r un statws o ran cynsail, yn llysoedd y DU â phenderfyniadau’r Goruchaf Lys.
20.Ar adeg pasio Bil y Ddeddf hon, y “diwrnod ymadael” o dan y Bil i Ymadael â’r UE, unwaith y’i deddfir, fydd 29 Mawrth 2019 am 11.00pm, oni bai bod y diwrnod neu’r amser y mae’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd a’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd yn peidio â bod yn gymwys i’r DU yn unol ag Erthygl 50(3) o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd yn wahanol a bod y Bil i Ymadael â’r UE yn cael ei ddiwygio drwy reoliadau a wneir gan un o Weinidogion y Goron i newid y diffiniad o’r diwrnod ymadael (“exit day”) yn unol â hynny.
21.Mae’r gyfraith sydd wedi ei throi neu ei diogelu gan y Bil i Ymadael â’r UE yn “cyfraith yr UE a ddargedwir”. Diffinnir cyfraith yr UE a ddargedwir (“retained EU law”) yng nghymal 6(7) o’r Bil i Ymadael â’r UE fel unrhyw beth sydd, ar neu ar ôl y diwrnod ymadael, yn parhau i fod yn gyfraith ddomestig, neu’n rhan ohoni, yn rhinwedd darpariaethau’r Ddeddf sy’n troi neu’n diogelu cyfraith yr UE a chyfraith y DU sy’n ymwneud â chyfraith yr UE. Bydd cyfraith yr UE a ddargedwir hefyd yn cynnwys unrhyw addasiadau i’r gyfraith a gaiff ei throi neu ei diogelu gan neu o dan y Bil i Ymadael â’r UE neu gan ddarn arall o gyfraith y DU o bryd i’w gilydd; a chaiff gynnwys cyfraith ar bynciau sydd wedi eu datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn ogystal â chyfraith ar bynciau nad ydynt wedi eu datganoli.
22.Ar adeg pasio Bil y Ddeddf hon, roedd y Bil i Ymadael â’r UE yn cynnwys cyfyngiadau ar allu Cynulliad Cenedlaethol Cymru i addasu cyfraith a gaiff ei throi neu ei diogelu gan y Bil i Ymadael â’r UE. Mae adran 108A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“DLlC 2006”), sy’n darparu ar gyfer cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi ei diwygio gan gymal 11(2) o’r Bil i Ymadael â’r UE. Mae’r diwygiad yn atal Deddf gan y Cynulliad rhag addasu cyfraith yr UE a ddargedwir, neu rhag rhoi pŵer i addasu cyfraith o’r fath, oni bai—
y byddai’r addasiad wedi bod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn union cyn y diwrnod ymadael; neu
fod yr addasiad wedi ei awdurdodi gan ddarpariaeth a wneir gan Ei Mawrhydi mewn Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor a gymeradwyir gan ddau Dŷ’r Senedd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
23.Ni fydd y gyfraith a ailddatgenir ac a ddarnodir cyn y diwrnod ymadael yn gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE o dan y Ddeddf yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir a gaiff ei throi neu ei diogelu o’r diwrnod ymadael o dan y Bil i Ymadael â’r UE. Bydd cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE yn parhau i fod yn gyfraith ddomestig, neu’n rhan ohoni, o ran Cymru yn rhinwedd darpariaethau’r Ddeddf, yn hytrach nag yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Bil i Ymadael â’r UE. Mae hyn yn golygu y bydd cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE yn dod y tu allan i’r diffiniad o gyfraith y DU a ddargedwir (“retained EU law”) yng nghymal 6(7) o’r Bil i Ymadael â’r UE ac na fydd yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau ar bŵer y Cynulliad i addasu cyfraith yr UE a ddargedwir a osodir gan gymal 11(2) o’r Bil hwnnw.
24.Mae’r Ddeddf yn rhoi pwerau pellach i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth:
mewn perthynas â sicrhau cydymffurfedd â rhwymedigaethau rhyngwladol,
mewn perthynas â gweithredu’r cytundeb ymadael, ac
i fynd bob yn gam â chyfraith yr UE ar ôl i’r DU ymadael â’r UE.
25.Mae’r Ddeddf yn sefydlu sefyllfa ddiofyn yn y gyfraith ei bod yn ofynnol cael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn y gall unrhyw berson wneud, cadarnhau neu gymeradwyo is-ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu pynciau datganoledig a wneir o dan Ddeddfau Seneddol a gaiff eu pasio ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym (ac sy’n bodloni amodau eraill). Gall Senedd y DU newid y sefyllfa ddiofyn hon os yw’n dymuno gwneud hynny pan fydd yn creu swyddogaethau newydd i wneud, cadarnhau neu gymeradwyo is-ddeddfwriaeth.
Am esboniad manwl o ddarpariaethau Bil yr UE (Ymadael) gweler y nodiadau esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth y DU.