Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

Valid from 01/04/2018

45Dim gofyniad i ollwng neu ad-dalu treth oni thelir yr holl drethLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

Yn adran 67 o DCRhT (achosion pan na fo angen i ACC roi effaith i hawliad), ar ôl is-adran (11) mewnosoder—

(12)Achos 8 yw—

(a)pan wneir yr hawliad mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, a

(b)pan na fo swm o dreth gwarediadau tirlenwi y mae’n ofynnol i’r hawlydd ei dalu wedi ei dalu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)