Adran 8 – Gweithgarwch safle tirlenwi i’w drin fel gwarediad trethadwy
21.Mae’r adran hon yn rhestru’r mathau o weithgarwch safle tirlenwi (fel y’i diffinnir yn adran 96) sydd i’w categoreiddio fel gweithgarwch safle tirlenwi penodedig, ac sydd felly’n cael eu trin fel gwarediadau trethadwy. Os yw gweithgarwch yn weithgarwch safle tirlenwi penodedig fel y’i rhestrir yn adran 8(3)(a) i (i), ac y caiff ei gyflawni yng Nghymru, caiff ei drin fel gwarediad trethadwy ni waeth pa un a fyddai’r gwarediad, fel arall, wedi bodloni’r amodau a nodir yn adran 3 ai peidio. Mae’r adran hon hefyd yn darparu bod y gwarediad i’w drin fel ei fod yn cael ei gyflawni pan ddefnyddir deunydd am y tro cyntaf mewn perthynas â gweithgarwch penodedig. Felly, er enghraifft, byddai’r adeg pan ddefnyddir deunydd am y tro cyntaf i greu ffordd dros dro yn achosi gwarediad trethadwy, a phe bai deunydd pellach yn cael ei ddefnyddio wedi hynny i gynnal a chadw neu atgyweirio’r ffordd honno, byddai’r deunydd hwnnw’n destun gwarediad trethadwy ar y dyddiad y’i defnyddir.
22.Mae adran 8(3)(e) yn cyfeirio at ddefnyddio deunydd i orchuddio man gwarediadau tirlenwi yn ystod cyfnod pan fo gwarediadau tirlenwi yn dod i ben dros dro. Adwaenir hyn yn aml fel gorchudd dyddiol, a chaiff ei ddefnyddio i atal sbwriel a phlâu.
23.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ychwanegu, addasu neu dynnu ymaith weithgarwch safle tirlenwi penodedig. Er bod y rhestr gyfredol yn adran 8(3) yn cynnwys gweithgarwch a gyflawnir ar safleoedd tirlenwi awdurdodedig, gallai rheoliadau ddarparu i weithgarwch a gyflawnir ar safleoedd heb eu hawdurdodi fod yn weithgarwch safle tirlenwi penodedig hefyd. Mae hyn yn darparu hyblygrwydd ychwanegol i fynd i’r afael ag unrhyw ymgais i osgoi talu treth gan y rheini sy’n gyfrifol am waredu gwastraff heb ei awdurdodi.