Adnewyddu trwyddedLL+C
10Os ceir cais i adnewyddu trwydded cyn y byddai’r drwydded oni bai am y paragraff hwn yn cael ei thrin fel pe bai wedi dod i ben, nid yw’r drwydded i gael ei thrin fel pe bai wedi dod i ben—
(a)tra bo’r cais i adnewyddu yn yr arfaeth;
(b)tra caniateir i apêl gael ei dwyn o dan baragraff 18 neu 19 mewn cysylltiad â’r cais;
(c)tra bo apêl a gaiff ei dwyn mewn cysylltiad â’r cais o dan baragraff 18 neu 19, o fewn y cyfnod ar gyfer dwyn apêl o dan y paragraff hwnnw, eto i gael ei phenderfynu.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I2Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 13.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2024/938, ergl. 2(1)(k)
I3Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 29.11.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2024/1248, ergl. 2(jj) (ynghyd ag erglau. 4, 5)
