xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
17(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw awdurdod dyroddi yn ystyried na ddylai hysbysiad cosb benodedig y mae swyddog awdurdodedig sy’n gweithredu ar ei ran wedi ei roi i berson (“P”) fod wedi cael ei roi.
(2)Caiff yr awdurdod dyroddi roi hysbysiad i P sy’n tynnu’r hysbysiad cosb benodedig yn ôl.
(3)Os yw’n gwneud hynny—
(a)rhaid iddo ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu ar ffurf cosb yn unol â’r hysbysiad cosb benodedig, a
(b)ni chaniateir dwyn achos na pharhau ag achos yn erbyn P am y drosedd o dan sylw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 126(2)
I2Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 29.9.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1048, ergl. 2(1)(h)
I3Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.3.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/202, ergl. 2