Atodlen 4 - Darparu toiledau: diwygiadau canlyniadol
291.Mae Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â’r ddarpariaeth a wneir yn Rhan 8 mewn perthynas â thoiledau. Mae’r diwygiadau hyn yn:
Datgymhwyso adran 87 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 mewn perthynas ag awdurdodau lleol yng Nghymru oherwydd bod y Ddeddf hon yn ailddatgan y pwerau a roddwyd gynt i’r awdurdodau hynny gan adran 87 o Ddeddf 1936 mewn perthynas â:
y ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus;
y pŵer i wneud is-ddeddfau ynghylch ymddygiad personau sy’n defnyddio’r toiledau neu’n mynd i mewn iddynt; ac
y pŵer i godi tâl am ddefnyddio’r toiledau y maent yn eu darparu.
Mewnosod cyfeiriad at adran 116 o’r Ddeddf hon yn adran 114 o Ddeddf Priffyrdd 1980 er mwyn sicrhau nad yw’r pwerau yn yr adran honno yn cael eu rhagfarnu gan y darpariaethau yn adran 116. Mae adran 117 yn rhoi pŵer i awdurdodau lleol i ddarparu cyfleusterau iechydol cyhoeddus ar gyfer defnyddwyr ffyrdd pan yr awdurdod lleol yw’r awdurdod priffyrdd.
Mewnosod cyfeiriad at adran 117 o’r Ddeddf hon yn y tablau yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012, fel nad yw’r is-ddeddfau y caiff cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned eu gwneud drwy arfer eu pŵer o dan adran 117 yn ddarostyngedig i gadarnhad gan Weinidogion Cymru, ac fel y caiff awdurdodau ddyroddi cosbau penodedig mewn perthynas â thorri’r is-ddeddfau hyn. Yn hynny o beth, mae’r newidiadau hyn yn cadw’r sefyllfa bresennol o dan Ddeddf 2012 mewn perthynas ag is-ddeddfau awdurdodau lleol ynghylch toiledau ond maent yn rhoi cyfeiriadau at yr adran berthnasol o’r Ddeddf hon yn lle cyfeiriadau at adran 87 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936.