Partneriaid cynrychiadolLL+C
10(1)Caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn cysylltiad â’r trafodiad gan y partneriaid cyfrifol, neu mewn perthynas â hwy, gael ei wneud yn lle hynny gan unrhyw bartner neu bartneriaid cynrychiadol, neu mewn perthynas â hwy.
(2)Mae hyn yn cynnwys gwneud y datganiad sy’n ofynnol gan adran 53 (datganiad bod ffurflen dreth yn gyflawn ac yn gywir).
(3)Ystyr “partner cynrychiadol” yw partner a enwebir gan fwyafrif o’r partneriaid i weithredu fel cynrychiolydd y bartneriaeth at ddibenion y Ddeddf hon.
(4)Nid yw unrhyw enwebiad o’r fath, neu ddirymiad enwebiad o’r fath, ond yn cael effaith ar ôl i ACC gael ei hysbysu am yr enwebiad neu’r dirymiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)
I2Atod. 7 para. 10 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3