xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 21A wedi ei fewnosod (26.11.2024) gan Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2024 (O.S. 2024/1193), rhlau. 1(2), 2(5)
1.Yn yr Atodlen hon, ystyr “tir y trafodiad”, mewn perthynas â thrafodiad tir, yw tir y mae buddiant trethadwy ynddo yn destun y trafodiad.
[F22.Yn yr Atodlen hon, ystyr “safle treth arbennig” yw’r ardaloedd a ddynodir yn ardaloedd arbennig gan—
(a)Rheoliadau Dynodi Safleoedd Treth Arbennig (Porthladd Rhydd Celtaidd) 2024 (O.S. 2024/1035) fel y’u gwnaed ar 16 Hydref 2024;
(b)Rheoliadau Dynodi Safleoedd Treth Arbennig (Porthladd Rhydd Ynys Môn) 2024 (O.S. 2024/1286) fel y’u gwnaed ar 4 Rhagfyr 2024.]
Diwygiadau Testunol
F2Atod. 21A para. 2 wedi ei amnewid (23.1.2025) gan Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2025 (O.S. 2025/54), rhlau. 1(2), 2(2)
3.At ddibenion yr Atodlen hon, mae tir y trafodiad yn “tir cymhwysol” os, ar y dyddiad y mae’r trafodiad tir yn cael effaith—
(a)y’i lleolir mewn safle treth arbennig, a
(b)yw’r prynwr yn bwriadu iddo gael ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol yn unig.
4.(1)At ddibenion yr Atodlen hon, defnyddir tir y trafodiad mewn modd cymhwysol os y’i defnyddir mewn un neu ragor o’r ffyrdd a ganlyn—
(a)fe’i defnyddir gan y prynwr neu berson cysylltiedig yng nghwrs masnach fasnachol neu broffesiwn masnachol;
(b)fe’i datblygir neu fe’i hailddatblygir gan y prynwr neu berson cysylltiedig i’w ddefnyddio (gan unrhyw berson) yng nghwrs masnach fasnachol neu broffesiwn masnachol;
(c)ymelwir arno gan y prynwr neu berson cysylltiedig, yng nghwrs masnach fasnachol neu broffesiwn masnachol, fel ffynhonnell rhenti neu dderbyniadau eraill (ac eithrio rhenti wedi eu heithrio).
(2)Ond ni ddefnyddir tir y trafodiad mewn modd cymhwysol i’r graddau—
(a)y’i defnyddir fel annedd neu fel gardd neu diroedd annedd (gan gynnwys unrhyw adeilad neu strwythur arall ar dir o’r fath),
(b)y’i datblygir neu y’i hailddatblygir yn eiddo preswyl,
(c)yr ymelwir arno fel ffynhonnell rhenti neu dderbyniadau eraill sy’n daladwy gan berson sy’n defnyddio’r tir ac eithrio mewn modd cymhwysol, neu
(d)y’i delir (fel stoc y busnes) i’w ailwerthu heb ei ddatblygu na’i ailddatblygu.
(3)Er gwaethaf is-baragraff (2), defnyddir tir y trafodiad mewn modd cymhwysol i’r graddau y’i defnyddir fel annedd neu fel gardd neu diroedd annedd a ddarperir i unigolyn a theulu’r unigolyn er mwyn cyflawni dyletswyddau cyflogaeth yr unigolyn yn well fel gofalwr tir y trafodiad neu unrhyw ran ohono neu fel aelod o’r staff diogelwch ar gyfer tir y trafodiad neu unrhyw ran ohono.
(4)At ddibenion y paragraff hwn, mae defnydd o dir yng nghwrs masnach fasnachol neu broffesiwn masnachol yn cynnwys defnydd o dir at ddiben sy’n ategol i’r defnydd o dir arall sydd—
(a)wedi ei leoli mewn safle treth arbennig, a
(b)yn cael ei ddefnyddio, neu’n cael ei ddatblygu neu ei ailddatblygu, yng nghwrs masnach fasnachol neu broffesiwn masnachol.
(5)Mae’r cyfeiriadau yn y paragraff hwn at wneud rhywbeth yng nghwrs masnach fasnachol neu broffesiwn masnachol yn cynnwys gwneud rhywbeth yng nghwrs busnes rhentu eiddo.
(6)Yn y paragraff hwn—
mae i “busnes rhentu eiddo” (“property rental business”) yr un ystyr â “property business” yn Neddf Treth Incwm (Incwm Masnachu ac Incwm Arall) 2005 (p. 5) (gweler adran 263(6) o’r Ddeddf honno);
ystyr “masnachol” (“commercial”) mewn perthynas â masnach neu broffesiwn, yw ymgymryd â hi neu ag ef—
ar sail fasnachol, a
gyda’r bwriad o wneud elw;
ystyr “rhenti wedi eu heithrio” (“excluded rents”) yw incwm o fewn unrhyw un neu ragor o ddosbarthau 1 i 6 yn y tabl yn adran 605(2) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4).
5.Yn y Rhan hon, ystyr y “cyfnod rhyddhad”
[F3(a)][F4i’r graddau y mae’r cyfeiriad yn ymwneud â’r safle treth arbennig a grybwyllir ym mharagraff 2(a),] yw’r cyfnod sy’n dechrau â 26 Tachwedd 2024 ac sy’n dod i ben â 30 Medi 2029.
[F5(b)i’r graddau y mae’r cyfeiriad yn ymwneud â’r safle treth arbennig a grybwyllir ym mharagraff 2(b), yw’r cyfnod sy’n dechrau â 23 Ionawr 2025 ac sy’n dod i ben â 30 Medi 2029.]
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn Atod. 21A para. 5(a) in Atod. 21A para. 5 wedi ei ailrifo fel Atod. 21A para. 5(a) (23.1.2025) gan Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2025 (O.S. 2025/54), rhlau. 1(2), 2(3)(a)
F4Geiriau yn Atod. 21A para. 5(a) wedi eu mewnosod (23.1.2025) gan Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2025 (O.S. 2025/54), rhlau. 1(2), 2(3)(b)
F5Atod. 21A para. 5(b) wedi ei fewnosod (23.1.2025) gan Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2025 (O.S. 2025/54), rhlau. 1(2), 2(3)(c)
6.(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os—
(a)yw 100% o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir i’w phriodoli i dir cymhwysol, a
(b)yw’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith o fewn y cyfnod rhyddhad.
(2)Mae’r trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth.
7.(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os—
(a)yw cyfran y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir sydd i’w phriodoli i dir cymhwysol (“y gyfran berthnasol”) yn llai na 100%, a
(b)yw’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith o fewn y cyfnod rhyddhad.
(2)Mae’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad tir wedi ei gostwng gan gyfran sy’n cyfateb i’r gyfran berthnasol.
8.(1)At ddibenion yr Atodlen hon, rhaid pennu’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i dir cymhwysol ar sail gyfiawn a rhesymol.
(2)Mae is-baragraffau (3) a (4) yn gymwys os yw llai na 100% o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd i’w phriodoli i dir y trafodiad sydd wedi ei leoli mewn safle treth arbennig (“y gydnabyddiaeth safle treth”) i’w phriodoli i dir sy’n bodloni’r amod ym mharagraff 3(b).
(3)Os yw o leiaf 90% o’r gydnabyddiaeth safle treth i’w phriodoli i dir sy’n bodloni’r amod ym mharagraff 3(b) , yna, at ddibenion yr Atodlen hon, mae’r holl gydnabyddiaeth safle treth i’w thrin fel pe bai i’w phriodoli i dir cymhwysol.
(4)Os yw llai na 10% o’r gydnabyddiaeth safle treth i’w phriodoli i dir sy’n bodloni’r amod ym mharagraff 3(b), yna, at ddibenion yr Atodlen hon, mae’r holl gydnabyddiaeth safle treth i’w thrin fel pe na bai i’w phriodoli i dir cymhwysol.
9.(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os—
(a)trinnir trafodiad tir fel pe bai’n cael effaith o dan adran 10(4) o ganlyniad i gontract yn cael ei gyflawni yn sylweddol heb ei gwblhau,
(b)yw’r trafodiad hwnnw wedi ei ryddhau rhag treth o dan baragraff 6 neu 7, ac
(c)cwblheir y contract a grybwyllir ym mharagraff (a) wedi hynny drwy drosglwyddiad ar ôl diwedd y cyfnod rhyddhad.
(2)Nid yw adran 10(5)(b) yn gymwys mewn perthynas â’r trafodiad a grybwyllir yn is-baragraff (1)(c) os mai’r unig reswm y byddai wedi bod yn gymwys (heblaw am y paragraff hwn) yw bod y trafodiad wedi digwydd ar ôl diwedd y cyfnod rhyddhad.
(3)Yn y paragraff hwn, mae “contract”, “cwblheir” a “trosglwyddiad” i’w dehongli yn unol ag adran 10(10).
10.(1)Yn y Rhan hon, cyfeirir at drafodiad sydd wedi ei ryddhau rhag treth o dan Ran 2 fel “trafodiad sydd wedi ei ryddhau”; ac yn unol â hynny mae cyfeiriadau at “prynwr” a “tir cymhwysol” yn gyfeiriadau at y prynwr a’r tir cymhwysol yn y trafodiad sydd wedi ei ryddhau.
(2)Caiff rhyddhad ei dynnu’n ôl mewn perthynas â thrafodiad sydd wedi ei ryddhau os na ddefnyddir y tir cymhwysol mewn modd cymhwysol yn unig ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod rheoli.
(3)Ond nid yw’r rhyddhad yn cael ei dynnu’n ôl pan, oherwydd newid mewn amgylchiadau nas rhagwelwyd ac sydd y tu hwnt i reolaeth y prynwr, nad yw’n rhesymol disgwyl i’r tir cymhwysol gael ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol yn unig ar yr adeg honno.
(4)Pan na ddechreuwyd defnyddio’r cyfan o’r tir cymhwysol neu ran ohono mewn modd cymhwysol, ar adeg yn ystod y cyfnod rheoli, mae’r tir hwnnw, neu’r rhan honno o’r tir hwnnw, i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei ddefnyddio neu ei defnyddio mewn modd cymhwysol yn unig os oes camau rhesymol yn cael eu cymryd i sicrhau y’i defnyddir yn y modd hwnnw.
(5)Pan fo’r defnydd o’r cyfan o’r tir cymhwysol neu ran ohono mewn modd cymhwysol, ar adeg yn ystod y cyfnod rheoli, wedi peidio, mae’r tir hwnnw, neu’r rhan honno o’r tir hwnnw, i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei ddefnyddio neu ei defnyddio mewn modd cymhwysol yn unig os oes camau rhesymol yn cael eu cymryd—
(a)i sicrhau y’i defnyddir yn y modd hwnnw, neu
(b)i waredu’r holl fuddiannau trethadwy yn y tir hwnnw, neu’r rhan honno o’r tir hwnnw, a ddelir gan y prynwr a phersonau cysylltiedig mewn modd amserol.
11.(1)Yn yr Atodlen hon, ystyr y “cyfnod rheoli”, mewn perthynas â thrafodiad sydd wedi ei ryddhau, yw’r byrraf o—
(a)y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw’n cael effaith, a
(b)y cyfnod sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad hwnnw’n cael effaith ac sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae’r trafodiad terfynol yn cael effaith.
(2)At ddibenion y paragraff hwn, trafodiad tir yw’r trafodiad terfynol os nad yw’r prynwr na pherson cysylltiedig yn dal buddiant trethadwy yn y tir cymhwysol yn union ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (pa un ai o ganlyniad i’r trafodiad hwnnw yn unig neu o ganlyniad i’r trafodiad hwnnw a thrafodiadau tir eraill).
(3)At ddibenion is-baragraff (2), trinnir y prynwr neu berson cysylltiedig fel pe na bai ganddo fuddiant trethadwy yn y tir cymhwysol os yw gwerth marchnadol y buddiant trethadwy yn y tir cymhwysol y mae’r prynwr neu berson cysylltiedig yn ei ddal yn llai na £40,000, oni bai bod is-baragraff (4) yn gymwys.
(4)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os—
(a)yw’r prynwr ac unrhyw berson cysylltiedig yn dal rhyngddynt fwy nag un buddiant trethadwy yn y tir cymhwysol, a
(b)yw cyfanswm gwerth marchnadol y buddiannau trethadwy hynny yn £40,000 neu fwy.
12.(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r prynwr yn peidio â dal buddiant trethadwy mewn rhan o’r tir cymhwysol yn ystod y cyfnod rheoli.
(2)Mae’r cyfeiriadau at y tir cymhwysol ym mharagraffau 10 ac 11 i’w trin fel cyfeiriadau at y rhan yn unig o’r tir cymhwysol y mae’r prynwr yn dal buddiant trethadwy mewn perthynas â hi o hyd (pa un ai’r buddiant trethadwy a gaffaelwyd yn y trafodiad tir sydd wedi ei ryddhau rhag treth o dan Ran 2 o’r Atodlen hon neu fuddiant trethadwy arall).
13.(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r naill neu’r llall o’r canlynol yn gymwys—
(a)paragraff 2(1) o Atodlen 10 (tir a werthir i sefydliad ariannol ac a lesir i berson), neu
(b)paragraff 3(1) o Atodlen 10 (tir a werthir i sefydliad ariannol ac a ailwerthir i berson).
(2)Mae’r paragraff hwn yn gymwys at ddibenion penderfynu—
(a)a ellir hawlio rhyddhad o dan Ran 2 o’r Atodlen hon ar gyfer y trafodiad cyntaf, a
(b)a yw’r rhyddhad ar gyfer y trafodiad cyntaf yn cael ei dynnu’n ôl o dan Ran 3 o’r Atodlen hon.
(3)At y dibenion hynny, mae’r Atodlen hon yn cael effaith fel pe bai—
(a)cyfeiriadau at y prynwr yn gyfeiriadau at y person perthnasol, a
(b)y cyfeiriad ym mharagraff 4(2)(d) at dir a ddelir (fel stoc ar gyfer y busnes) i’w ailwerthu heb ei ddatblygu na’i ailddatblygu yn gyfeiriad at dir a ddelir yn y modd hwnnw gan y person perthnasol.
(4)Nid yw’r trafodiad cyntaf yn gymwys am ryddhad o dan Ran 2 o’r Atodlen hon ac eithrio pan fo’n gwneud hynny yn rhinwedd y paragraff hwn.
(5)Yn y paragraff hwn—
ystyr “y person perthnasol” (“the relevant person”) yw’r person, ac eithrio’r sefydliad ariannol, a ymrwymodd i’r trefniadau a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 10 (fel y bo’n briodol).”;
mae i “y trafodiad cyntaf” (“the first transaction”) yr un ystyr ag ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 10 (fel y bo’n briodol).]