Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Cymhwyso’r Atodlen hon i ymddiriedolaethau penodolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

9(1)Mae’r Atodlen hon yn gymwys i’r ymddiriedolaethau a ganlyn fel y mae’n gymwys i elusen ond yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn is-baragraff (2)—

(a)ymddiriedolaeth y mae’r holl fuddiolwyr ynddi yn elusennau, neu

(b)cynllun ymddiriedolaeth unedau y mae’r holl ddeiliaid unedau ynddo yn elusennau.

(2)Yr addasiadau i’r Atodlen hon yw—

(a)mae’r cyfeiriadau ym mharagraff 2(2) at ddibenion elusennol E i gael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at rai’r buddiolwyr neu’r deiliaid unedau, neu unrhyw un neu ragor ohonynt;

(b)mae’r cyfeiriadau at E ym mharagraff 2(4) i gael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at unrhyw un neu ragor o’r buddiolwyr neu’r deiliaid unedau;

(c)mae’r cyfeiriadau ym mharagraffau 5(2)(b) ac 8(2)(b) at ddibenion elusennol E i gael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at rai’r buddiolwyr neu’r deiliaid unedau, neu unrhyw un neu ragor ohonynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 18 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 18 para. 9 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3