Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Ystyr “elusen”: yr amod awdurdodaethLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

[F12B.(1)Mae corff o bersonau neu ymddiriedolaeth yn bodloni’r amod awdurdodaeth os yw’n dod yn ddarostyngedig i reolaeth llys perthnasol yn y DU wrth arfer ei awdurdodaeth mewn cysylltiad ag elusennau.

(2)Ystyr “llys perthnasol yn y DU” yw—

(a)yr Uchel Lys,

(b)y Llys Sesiwn, neu

(c)yr Uchel Lys yng Ngogledd Iwerddon.]