Rhyddhad rhannol: elusen nad yw’n elusen gymwys
397.Mae paragraff 8(1) yn darparu o dan ba amodau y mae elusen (“E”) nad yw’n elusen gymwys yn gymwys ar gyfer rhyddhad rhannol o dan baragraffau 6 a 7, sef:
pan fo E yn caffael tir ar y cyd â phrynwr anelusennol fel tenantiaid ar y cyd;
pan na fo E yn elusen gymwys;
pan fo’r darpariaethau rhyddhad rhannol yn gymwys pe bai E yn elusen gymwys; a
pan fo E yn bwriadu dal y rhan fwyaf o’i chyfran o’r eiddo at ddibenion elusennol cymwys.
398.Pan fo paragraff 7 (tynnu rhyddhad rhannol yn ôl) yn gymwys, mae is-baragraff (2) yn darparu bod digwyddiad datgymhwyso yn cynnwys:
unrhyw drosglwyddiad gan E o brif fuddiant yn nhestun cyfan y trafodiad perthnasol neu unrhyw ran ohono; a
unrhyw les rhent isel a roddir am bremiwm gan E am y testun cyfan hwnnw neu unrhyw ran ohono.
399.Mae paragraff 7 yn ddarostyngedig i addasiadau.